Venue Cymru fydd lleoliad cyntaf ysbyty dros dro yng Ngogledd Cymru.
Bydd y ganolfan adloniant yn Llandudno yn darparu 250 o welyau ychwanegol er mwyn cefnogi ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i COVID-19.
Bydd Venue Cymru yn darparu gwelyau ysbytai ar gyfer cleifion sydd â chwynion resbiradol o ganlyniad i symptomau COVID-19.
Bydd yr ysbyty dros dro yn gweithio ochr yn ochr â'r capasiti presennol sydd ar gael yn Ysbyty Llandudno.
Dywedodd Mark Wilkinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio a Pherfformiad: “Mae datblygu ysbytai dros dro yn gam pwysig yn ein hymdrechion i ymateb i'r her sydd wedi codi yn sgil COVID-19.
“Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth rydym yn ei chael gan bob un o'n partneriaid ar draws Gogledd Cymru er mwyn canfod ac asesu lleoliadau posibl ar gyfer safleoedd tebyg.
“Mae Cyngor Conwy wedi rhoi cymorth gwych o ran ein helpu i gyrraedd y cam yma, a thros y diwrnodau sydd i ddod, byddwn yn parhau i gymeradwyo manylion am sut byddwn yn trawsnewid Venue Cymru yn ysbyty gweithredol dros do."
Dywedodd y Cyng. Sam Rowlands, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Rydym yn awyddus i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein partneriaid yn ystod y cyfnod heriol hwn, ac ystyriwyd bod Venue Cymru yn ddewis addas gan ei fod yn cynnig lle ac isadeiledd digonol.
“Mae rhai o'n gwasanaethau wedi cau dros dro ac mae llawer o'n staff wedi'u hadleoli i ganolbwyntio ar wasanaethau sy'n flaenoriaeth, a byddwn yn awyddus i barhau i'w cynnig cyn hired â phosibl. Mae ailbwrpasu adeiladau fel Venue Cymru yn un o'r prif ffyrdd y gallwn helpu i gefnogi'r ymdrech i ymateb i'r her yng Ngogledd Cymru."
Mewn mannau eraill, mae 80 o welyau ychwanegol yn cael eu datblygu ar hyn o bryd yn Ysbyty Glan Clwyd, gan ddefnyddio mannau gwag o ganlyniad i ailddatblygu'r ysbyty yn ddiweddar, a fyddai'n barod i'w defnyddio erbyn diwedd mis Ebrill.
Caiff manylion am leoliadau ysbytai dros dro eraill eu rhannu dros y diwrnodau nesaf.