Mae arbenigwr mewn gofalu am fabanod newydd-anedig sy'n sâl ac sy'n cael eu geni'n gynnar wedi ymddangos fel cydgyflwynydd gwadd arbennig ar bodlediad cenedlaethol, yn rhoi cipolwg ar ei gwaith a gwybodaeth amdano yn Ysbyty Glan Clwyd ac ar wasanaeth cludo'r Newydd-anedig Gogledd Cymru.
Bu Rhian Smith, Uwch Ymarferydd Nyrsio'r Newydd-anedig, yn cydgyflwyno rhifyn arbennig o bodlediad 2 Paeds In A Pod.
Gwnaeth Rhian ymddangos ar y podlediad i nodi Wythnos Arfer Uwch, yn amlygu'r gwaith hollbwysig a wneir gan Uwch Ymarferwyr.
Mae Arfer Uwch wedi'i diffinio fel gofal a roddir gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chofrestredig sydd wedi cyrraedd addysg ar lefel gradd meistr, gyda phrofiad mewn arfer clinigol, arweinyddiaeth, addysg ac ymchwil.
Fel arloesiad cymharol ddiweddar yn y GIG, mae Uwch Ymarferwyr yn gweithio mewn ystod o leoliadau gan gynnwys Gofal Brys, oedolion, paediatreg a gofal dwys ar gyfer y newydd-anedig.
Mae'r podlediad, a gyflwynir fel arfer gan y Paediatregydd Ymgynghorol, Dr Ian Lewins, yn croesawu gwestai ym mhob rhaglen i drafod byd addysg feddygol baediatrig.
Ymunodd Uwch Ymarferwyr eraill â Rhian, sef Katie Barnes, sy'n gweithio yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Plant Alder Hey, a Laura Lee, Uwch Ymarferydd Clinigol yn Norfolk, ar gyfer y sioe.
Y podlediad oedd y cyntaf mewn cyfres newydd yn canolbwyntio ar Arfer Uwch a fydd yn cael eu darlledu dros y flwyddyn sydd i ddod.
Dywedodd Rhian: “Roedd yn her rhoi'r podlediad hwn at ei gilydd ac roedd yn cynnwys llawer o ddysgu mewn cyfnod byr, heb sôn am y dechnoleg yr oedd ei hangen!
“Roedd yn ddiddorol iawn trafod meysydd o'n harfer a oedd yn wahanol iawn, ond hefyd faint o debygolrwydd a oedd yn bodoli o ran sut rydym yn gweithio, hyd yn oed os yw'r gwaith gwirioneddol rydym yn ei wneud yn eithaf gwahanol.
"Gwnaethom siarad am ystyr arfer uwch, beth oedd ein cymhelliant dros gamu i mewn i arfer clinigol uwch a sut beth yw diwrnod arferol i ni.
“Hon oedd y rhaglen gyntaf mewn cyfres achlysurol am arfer uwch, a gobeithio ei bod o ddiddordeb i Uwch Ymarferwyr eraill, unrhyw un sy'n gweithio ym maes Gofal y Newydd-anedig, neu unrhyw un sy'n ystyried camu i mewn i Arfer Uwch.
“Mae pynciau eraill sydd wedi'u trefnu ar gyfer y dyfodol yn cynnwys edrych ar y llwybrau addysgol yn ymwneud â dod yn uwch ymarferydd a beth sy'n dod nesaf ar ôl arfer uwch.
Mae'r podlediad ar gael ar yr holl lwyfannau podledu poblogaidd, ac mae mwy na 3,000 o bobl yn dilyn cyfrif Twitter y podlediad.