Mae unigolyn a oroesodd drawiad ar y galon ac ataliad y galon am i ferched fod yn ymwybodol o’r arwyddion sy’n dangos y gallai fod ganddynt drafferthion o ran y galon.
Mae Tracy Healey yn unigolyn 55 oed sy’n heini ac iach sy’n bwyta’n ddoeth, heb ysmygu ac sy’n arwain ffordd o fyw iach yn gyffredinol.
Ond yn gynharach eleni, cafodd drawiad ar y galon ac ataliad y galon ar ôl methu adnabod yr arwyddion cynnar.
Mae Tracy, sy’n byw yng Nghorwen, bellach yn ymuno â nyrsys cardiaidd yng Nghanolfan Gardiaidd Gogledd Cymru i annog merched eraill i edrych am yr arwyddion hollbwysig y gallai eu hiechyd fod mewn perygl.
Er y gall dynion a merched brofi’r un symptomau cyffredin wrth gael trawiad ar y galon, mae’r arwyddion cynnar eich bod yn sâl yn tueddu i fod yn wahanol ar gyfer y rhywiau.
Dywedodd Tracy: “Anwybyddais y boen a oedd yn debyg i ddiffyg traul a oedd yn digwydd yn y nos. Dim ond pan ddechreuodd yr anghysur cynyddol ddechrau symud i lawr un fraich, ac y deffrais gan deimlo’n sâl iawn gyda chroen oer a thamp a phoen gynyddol tua 4am y penderfynais geisio cymorth meddygol ac roedd yn ffodus iawn i mi wneud hynny.”
Mae symptomau trawiad y galon yn amrywio rhwng un unigolyn a’r llall, a gallant gynnwys anghysur yn y frest neu dyndra yn y frest, poen sy’n lledu o’r fraich chwith neu’r fraich dde, y gwddf neu’r safn, y cefn neu’r stumog, chwysu neu ddiffyg anadl di-esboniad.
Dim ond rhyw hanner o’r merched sy’n cael trawiad ar y galon sy’n profi’r boen gywasgol yn y frest, sydd, fel arfer yn gysylltiedig â thrawiad ar y galon. Fel arfer, mae merched yn fwy tueddol o gael anghysur sy’n debyg i ddŵr poeth, poen yn y gwddf neu’r cefn, neu gyfog.
Dywedodd Tracy: “Ni feddyliais erioed y byddwn wedi cael trawiad ar y galon yn 55 oed, rydw i’n iach ac yn heini ar y cyfan, dydw i ddim yn ymysgu ac roeddwn i wedi bod allan am dro bach braf y diwrnod cyn y digwyddiad gyda’m teulu.
“Mae gen i hanes teuluol o glefyd y galon ond dydw i erioed wedi cael unrhyw symptomau i awgrymu bod gen i broblem ar y galon cyn hyn. Nid oedd gen i symptomau clasurol trawiad y galon y bydd rhywun yn eu gweld ar y teledu, fel poen gywasgol yn y frest.
“Roedd fy symptomau’n wahanol i hynny, ni wnaeth cael trawiad ar y galon groesi fy meddwl o gwbl. Roedd fy mhoen yn teimlo fel diffyg traul ysgafn yn y lle cyntaf, es i i’r gwely ond heb lwyddo i gysgu wrth i’r boen waethygu ac roedd yn fy neffro dro ar ôl tro. Dechreuais deimlo’n boeth a dim ond pan ddechreuais gael anghysur rhyfedd yn fy mhreichiau y meddyliais fod rhywbeth o’i le ac y byddai’n well i mi geisio cymorth meddygol. Rydw i’n dal i fod mewn sioc am yr holl beth.”
Ar ôl cael anhawster gyda’r boen yn ei stumog am ryw bedair awr, gwnaeth Tracy ymweld ag Adran Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam i geisio cymorth.
“Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, gwnaeth fy anghysur yn y frest waethygu, dechreuais deimlo’n sâl ar y cyfan a dyna pryd y gwnaeth fy nghalon stopio curo ac y cefais ataliad ar y galon.
“Trwy lwc roeddwn yn yr adran achosion brys ar yr adeg a dechreuodd y staff roi CPR. Yna cefais fy nhrosglwyddo trwy ambiwlans i Ganolfan Gardiaidd Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd lle cefais wybod bod rhwystr yn un o rydwelïau fy nghalon, sy’n bibell waed sy’n cyflenwi gwaed ac ocsigen i gyhyr fy nghalon a’i fod yn atal y gwaed rhag llifo.
“Diolch i’r drefn, roedd y tîm yng Nghanolfan Gardiaidd Gogledd Cymru yn gallu clirio rhydweli’r galon trwy osod stent bach trwy fy arddwrn, gan ganiatáu i waed lifo’n ôl i gyhyr y galon.”
Dywedodd Anne-Marie Angel, Nyrs Gofal Coronaidd yng Nghanolfan Gardiaidd Gogledd Cymru: “Mae symptomau trawiad y galon yn amrywio rhwng un unigolyn a’r llall. Mae arwyddion cyffredin yn cynnwys anghysur yn y frest sy’n teimlo fel pwysedd neu dyndra, poen sy’n lledu o’r fraich chwith i’r fraich dde, y gwddf neu’r safn, y cefn neu’r stumog ac efallai y bydd rhai’n teimlo’n chwyslyd neu’n fyr o wynt.
“Mae merched yn fwy tebygol o gael symptomau’n cynnwys poen yn y cefn neu’r gwddf, diffyg traul, dŵr poeth neu gyfog. Mae’r symptomau hyn yn hawdd i’w hanwybyddu, yn aml, a chânt eu camgymryd am rywbeth arall.
“Rydym hefyd yn gwybod y gallai merched fod yn llai tebygol o geisio cymorth meddygol neu driniaeth er gwaethaf yr holl rybuddion ac yn anffodus, gall hyn leihau’r tebygolrwydd o oroesi’n sylweddol.
“Trwy lwc, penderfynodd Tracy geisio cymorth meddygol mewn pryd i dderbyn triniaeth yn gyflym, sy’n hanfodol er mwyn cael adferiad”.
Dywedodd Tracy: “Rydw i mor ddiolchgar i’r staff yn Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd a chanolfan gardiaidd Gogledd Cymru, am y gofal rydw i wedi’i gael.
“Mae pawb wedi bod mor barod eu cymorth, yn garedig ac yn gefnogol ac alla’ i ddim diolch iddyn nhw ddigon.
“Pe byddwn i’n gallu rhannu un neges gyda’r cyhoedd yng Ngogledd Cymru, y neges honno fyddai peidio ag anwybyddu poen yn eich brest fel y gwnes i, ffoniwch 999 a cheisiwch gymorth meddygol cyn gynted ag y bo modd, bu bron iawn i mi ei gadael yn rhy hwyr.”