Bydd Uned Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDEC) newydd yn Ysbyty Glan Clwyd yn gwella amseroedd aros i bobl sydd angen gofal brys.
Bydd yr uned SDEC, sy'n agor heddiw (dydd Mercher 3 Gorffennaf), yn helpu pobl â salwch megis poen yn y frest a'r abdomen, cur pen difrifol a chasgliad, i gael asesiad brys a thriniaeth.
Bydd yr uned yn asesu, rhoi diagnosis ac yn trin cleifion cymwys cyn eu rhyddhau'n ddiogel gartref i wella neu i aros am fwy o driniaeth.
Y gobaith yw y bydd yr uned newydd yn lleddfu pwysau ar Adran Achosion Brys yr ysbyty drwy ryddhau gwelyau ac ailgyfeirio cyfran o gleifion at ofal priodol.
Mae'r uned yn cael ei rhedeg gan dîm o uwch staff nyrsio, meddygol a llawfeddygol sy'n gallu darparu mynediad cyflym at brofion a thriniaethau.
Bydd cleifion cymwys sy'n ymweld â'r Adran Achosion Brys neu sy'n cael eu cyfeirio gan eu meddyg teulu yn cael eu hailgyfeirio am driniaeth yn yr uned SDEC. Bydd cyfeiriadau'n seiliedig ar feini prawf clinigol y cytunwyd arnynt i sicrhau bod y cleifion cywir yn cael eu cyfeirio am ofal yr un diwrnod a bod y gwasanaeth yn parhau'n ddiogel yn glinigol.
Andy Long, Gofal Brys Rheolwr Cyffredinol: "Y prif amcan yw gwella'r profiadau y mae cleifion sy'n ymweld â'n Hadran Achosion Brys yn eu cael.
"Drwy gyfeirio pobl am y driniaeth gywir ar yr adeg gywir a darparu mynediad cyflymach at sganiau a diagnosteg, gobeithio y gallwn osgoi cyfnodau diangen o aros yn ein Hadran Achosion Brys neu mewn gwely ysbyty.
"Bydd yr uned SDEC yn lleihau nifer y derbyniadau dros nos a'r pwysau mae hyn yn ei achosi ar ein wardiau cleifion mewnol.
"Yn ei dro, dylai hyn hefyd leihau'r galw ar ein staff i reoli cleifion lluosog, yn cynnwys pobl sy'n aros am driniaethau diagnostig nad ydynt angen bod yn yr ysbyty fel arall."
Dywedodd Lisa Morris, Metron Meddygaeth Frys: "Bydd yr uned SDEC yn ein galluogi i ganolbwyntio adnoddau'n well ar gleifion sydd angen gofal brys, ond ddim wir angen aros mewn gwely ysbyty.
"O ganlyniad, gall ein cydweithwyr yn yr Adran Achosion Brys hefyd ganolbwyntio ar gategori gwahanol o gleifion.
"Y canlyniad yw y dylai pawb sydd angen gofal brys gael gwell profiad o'n gwasanaethau."