Mae dyn o Wrecsam a dderbyniodd llawfeddygaeth ar gyfer gwaedu a fygythiodd ei fywyd wedi canmol staff yr ysbyty a achubodd ei fywyd.
Cafodd Ricky Allen, 78, ei ruthro i mewn i Ysbyty Glan Clwyd tuag at ddiwedd Mehefin 2021 gyda phoen eithriadol yn ei abdomen.
Cafodd ei roi o dan ofal y Llawfeddyg Fasgwlaidd Ymgynghorol, Mr Soroush Sohrabi, a roddodd ddiagnosis o ymlediad aortaidd yn yr abdomen wedi rhwygo (AAA), allai fod wedi bod yn angheuol petai wedi’i adael heb ei drin.
Meddai Ricky: “Y noson cyn i mi gael fy nerbyn i’r ysbyty, ‘doeddwn i ddim yn teimlo’n dda, roedd gen i boen eithriadol yn fy stumog ond roeddwn i’n gobeithio y byddai’n pasio.
“Fore trannoeth, ‘doedd gen i ddim dewis ond ffonio am ambiwlans gan fod y boen erbyn hyn yn annioddefol, roeddwn i’n gwybod fod rhywbeth mawr o’i le.
“Pan gyrhaeddais Ysbyty Glan Clwyd, cefais wybod ei fod yn ddifrifol a fy mod angen llawdriniaeth frys.”
Aethpwyd â Ricky i’r Ystafell Radioleg Ymyriadol lle rhoddodd Mr Sohrabi lawfeddygaeth twll clo iddo i roi stent yn ei aorta i stopio’r gwaedu. Ar ôl ychydig ddiwrnodau o adferiad ar y ward, cafodd fynd adref.
“Tydi geiriau ddim yn ddigon. Alla i ddim mynegi pa mor ddiolchgar ydw i am y ffordd y gofalodd yr ysbyty amdana i.
"Mae’r gofal a dderbyniais wedi bod yn eithriadol, mae pawb wedi bod yn anhygoel.
“Rwy’n teimlo’n emosiynol pan fydda i’n meddwl am yr hyn maen nhw wedi’i wneud i mi, rydym ni wir yn lwcus iawn o gael gwasanaeth fel hyn ar gael yng Ngogledd Cymru,” ychwanegodd Ricky.
Gellir gwneud gweithdrefnau megis atgyweiriadau AAA gan ddefnyddio llawfeddygaeth sy'n creu archoll mor fach â phosib megis twll clo yn hytrach na llawfeddygaeth agored, gyda chyfarpar delweddu yn helpu i arwain yr offer.
Ers agor y Theatr Hybrid yn 2019, mae cleifion sydd angen triniaeth fasgwlaidd brys wedi elwa o’r offer newydd sydd wedi dod â mathau newydd o lawfeddygaeth i Ogledd Cymru. Mae’r Ystafell Radioleg Ymyriadol hefyd yn cynnig yr un dechnoleg ar gyfer trin cleifion fasgwlaidd â’r Theatr Hybrid.
Gall cleifion fel Ricky dderbyn y gweithdrefnau cymhleth hyn yn Ysbyty Glan Clwyd yn yr hwb fasgwlaidd a byddant yn derbyn apwyntiad dilynol yn nes ymlaen yn eu hysbyty lleol.
Linda Crossley, 67 o Fodfari, oedd y person cyntaf i dderbyn triniaeth hybrid newydd ar gyfer ymlediad iliag yng Ngogledd Cymru ym mis Medi 2020.
Ymlediad iliag yw chwydd a gwendid yn wal y rhydweli iliag, sydd wedi’i leoli yn y pelfis. Gall yr ymlediadau hyn fyrstio, all achosi gwaedu afreolus all fygwth bywyd.
Mae Linda, sy’n Gontractwr Tirwedd wedi ymddeol, wedi cael ystod o driniaethau ers 2016, gan gynnwys codi bron a chemotherapi i drin canser y fron, a llawfeddygaeth fasgwlaidd fawr agored i drin ymlediad yn y ddau rydweli iliag.
Meddai Linda: “Wrth feddwl am y llynedd, gyda COVID, roedd y ffaith fy mod wedi cael fy llawdriniaeth yn anhygoel. Gwnaed popeth gyda chymaint o feddwl ac ystyriaeth.
“Roedd y gofal a dderbyniais heb ei ail, ac roedd y staff yn hollol wych.
“Mae’r holl broses wedi bod yn esmwyth, o’r tîm yn yr adran sganio i weld Mr Sohrabi a Mr Desmarowitz.”
Defnyddiodd y Llawfeddyg Fasgwlaidd Ymgynghorol Mr Sohrabi a berfformiodd y weithdrefn ynghyd â’r Radiolegydd Ymgynghorol Dr Owen Rees, arddull hybrid i drin cyflwr Linda trwy gyfuno llawfeddygaeth twll clo i roi stent arbenigol i mewn i’r ymlediad gan ddefnyddio’r cyfleusterau yn y Theatr Hybrid.
Meddai: “Mae llawfeddygaeth hybrid yn darparu platfform i wneud gweithdrefnau endofasgwlaidd gyda’r archoll lleiaf posibl wedi’i gyfuno gyda llawfeddygaeth agored ar gyfer cleifion fasgwlaidd.
“Gan ddefnyddio’r cyfleuster hybrid yn ysbyty Glan Clwyd, gallwn drin ystod ehangach o gyflyrau fasgwlaidd cymhleth gyda’r dechnoleg newydd.
“Rydw i’n falch iawn o weld bod Linda a Ricky yn fodlon gyda’r gofal a gawsant.”