Yn ystod yr achosion o COVID-19, mae timau Orthopaedig ar draws y Bwrdd Iechyd yn gweithio'n wahanol i sicrhau bod gan bobl fynediad at y gofal maent ei angen o hyd.
Er bod llawfeddygaeth dethol wedi'i ohirio dros dro, mae'r timau Orthopaedig yn parhau i gefnogi cleifion mewn gwahanol ffyrdd, megis cynnal arolwg cleifion dros y ffôn a pharhau i gynnal llawdriniaethau trawma brys.
Mae cynlluniau wedi'u rhoi ar waith i sicrhau bod gofal ar gael o hyd i gleifion sydd ag anafiadau cyhyrsgerbydol.
Mae tîm Orthopaedig Ysbyty Maelor Wrecsam wedi creu gwasanaeth un stop dan arweiniad Meddyg Ymgynghorol yn eu hadran i gefnogi'r mathau hyn o gleifion.
Dywedodd Mr David Barlow, Llawfeddyg Ymgynghorol Orthopaedig ac Arweinydd Trawma: "Fe benderfynon ni'n gynnar yn y pandemig hwn fod angen i ni sefydlu gwasanaeth ble gall cleifion gael eu gweld yn gyflym i leihau eu hamser yn yr ysbyty, a hefyd i leihau pwysau ar ein Hadran Achosion Brys.
"Rydym yn awr yn ein hail fis o gynnal gwasanaeth mân anafiadau effeithiol yn ein hadran ein hunain, yn ogystal â pharhau gyda'n rhestrau trawma arferol ar gyfer ein cleifion brys.
"Fodd bynnag, mae cleifion sydd â mân anaf yn dod yn uniongyrchol atom ni'n awr yn hytrach nac i'r Adran Achosion Brys.
"Rydym yn gweld nifer o wahanol anafiadau o friwiau a chleisiau i anafiadau mwy difrifol all fod angen llawdriniaeth fach, y gallwn ei gyflawni yn ein Theatr Mân Lawdriniaeth yn yr adran.
"Ein blaenoriaeth oedd atal y cleifion rhag aros amser hir i gael eu gweld am driniaeth a hefyd i leihau'r angen i gleifion fod angen dychwelyd i'r ysbyty ar gyfer apwyntiad dilynol gydag arbenigwr. Mae'r gwasanaeth yn caniatáu i gleifion gael eu gweld yn gynt ac mae'n atal nifer ohonynt rhag gorfod dod yn ôl am driniaeth bellach.
"Mae'r timau sydd yn rhan o'r gwasanaeth hwn yn cynnwys llawfeddygon arbenigol, nyrsys, technegwyr plastr a ffisiotherapyddion i sicrhau bod gennym staff ar gael rhwng 8am - hanner nos saith niwrnod yr wythnos, ac mae ein gwasanaeth ar-alwad arferol yn parhau rhwng yr amseroedd hynny, i ddarparu'r gofal gorau posibl i'n cleifion."
Yn Ysbyty Gwynedd, maent yn darparu gwasanaeth brys gan feddyg ymgynghorol a hefyd yn cefnogi cydweithwyr mewn ysbytai cymuned gyfagos.
Dywedodd Mr Agustin Soler, Meddyg Ymgynghorol Orthopaedig a Llawfeddyg Trawma: "Ar ddechrau'r pandemig, roeddem yn gwybod fod yn rhaid i ni newid y ffordd roeddem yn darparu ein clinigau tor asgwrn i leihau ôl troed cleifion i'r ysbyty.
"Yn ogystal â chynnal ein gwasanaeth ar-alwad rheolaidd mae gennym yn awr Feddyg Ymgynghorol pwrpasol ychwanegol ar gael rhwng 8am a 5pm a all wneud penderfyniadau uwch ar ba ofal mae'r claf ei angen. Gall hyn un ai eu hatal rhag dod i'r ysbyty neu leihau'r angen iddynt ddod yn ôl am driniaeth bellach.
"Mae hyn wedi lleihau nifer y derbyniadau ac apwyntiadau clinig. Mae'r rhai sydd angen cael eu gweld gan aelod o'n tîm arbenigol yn cael eu gweld a'u trin mewn amgylchedd diogel ac mewn rhai achosion bydd angen iddynt ddychwelyd mewn ychydig wythnosau, yn dibynnu ar eu hanaf.
"Er mwyn cadw at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol, rydym yn awr yn gweld cleifion yn yr Adran Achosion Brys, yn hytrach na'r clinig tor asgwrn, a oedd yn fan caeedig ac nid oedd yn addas ar gyfer y cyfnod hwn.
"Mae hefyd wedi bod yn bwysig i ni gefnogi ein cydweithwyr yn y gymuned ac rydym yn gwneud hyn drwy gynnig cyngor a chefnogaeth i staff yn yr Unedau Mân Anafiadau, sy'n gweld cleifion sydd ag anafiadau y gellir eu trin yn lleol, yn hytrach nag mewn ysbyty.
Yn Ysbyty Glan Clwyd, mae Adran Lawfeddygol Brys dros dro newydd wedi cael ei sefydlu ar flaen yr ysbyty.
Dywedodd Miss Louisa Banks, Meddyg Ymgynghorol Trawma ac Orthopaedig: "O ganlyniad i ohirio ein gwasanaeth dethol, fe benderfynom ni ffurfio adran newydd i gadw ein cleifion mor ddiogel â phosibl yn ystod yr adeg hon.
"Yn hytrach na dod i'r Adran Achosion Brys, mae cleifion yn awr yn cael eu brysbennu a'u cyfeirio at yr unigolyn delfrydol i ddelio â'u hanaf yn yr Adran Lawfeddygol Brys mawr.
"Roeddem yn dymuno creu gwasanaeth dan arweiniad Meddyg Ymgynghorol a chynnal amgylchedd sydd mor ddiogel â phosibl i'n cleifion, i leihau'r risg o'r coronafirws ac atal ail ymweliadau ac ymweliadau diangen i'r ysbyty.
"Mae'r adran wedi bod yn gweithio'n dda iawn ac mae timau llawfeddygol eraill megis fasgwlaidd, llawfeddygaeth gyffredinol, ENT a'r genau a'r wyneb yn awr wedi symud i mewn i'r man hwn i weld cleifion sydd angen triniaeth frys"