Neidio i'r prif gynnwy

Tîm y GIG sy'n cefnogi iechyd meddwl mamau newydd i ddringo'r Wyddfa mewn her elusennol

Tîm y GIG sy

Mae tîm y GIG sy'n helpu mamau newydd a mamau beichiog i oresgyn problemau iechyd meddwl ar fin dringo'r Wyddfa fel rhan o her elusennol ac ymgyrch i godi ymwybyddiaeth.

Bydd y staff ymroddgar o Wasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dringo mynydd uchaf Cymru ar 22 Mehefin i godi arian i elusennau iechyd meddwl amenedigol, PANDA ac Action on Postpartum Psychosis.

Drwy wneud hyn, maent hefyd yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael i ferched yng Ngogledd Cymru sy'n profi problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd, neu yn dilyn beichiogrwydd.

Wedi'i sefydlu yn 2017, mae'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol yn darparu ystod o gefnogaeth arbenigol ar gyfer mamau newydd a mamau beichiog, yn ogystal ag addysg a hyfforddiant i ymwelwyr iechyd, bydwragedd a Meddygon Teulu sy'n eu cefnogi.

Mae'r tîm wedi cael ei ehangu yn ddiweddar er mwyn ei alluogi i gefnogi mwy o ferched, i ymyrryd yn gynt, a chyflwyno therapïau newydd.

Mae problemau iechyd meddwl amenedigol yn effeithio ar hyd at 20% o ferched yn ystod beichiogrwydd a'r flwyddyn ar ôl geni. Mae hyn yn cynnwys ystod o gyflyrau sydd â chysylltiad penodol â beichiogrwydd neu enedigaeth, megis iselder amenedigol, pryder amenedigol, ac anhwylder straen ôl-drawmatig ôl-enedigol.

Yn ogystal â chael effaith anffafriol ar famau newydd, dangoswyd bod y cyflyrau hyn hefyd yn peryglu iechyd corfforol ac emosiynol plant yn y tymor hir. 

Mae Sally Wilson ymysg y rhai sy'n ymuno â'r tîm ar eu her yr Wyddfa, a ddatblygodd Seicosis Ôl-enedigol yn dilyn genedigaeth Ella ei merch ym mis Mai 2015.

Dioddefodd y cyn-ymchwilydd o Brifysgol Bangor ei phwl seicotig cyntaf ychydig o ddiwrnodau ar ôl i Ella gael ei geni. Gwnaeth y salwch iddi gredu ei bod wedi lladd ei merch, ac achosodd iddi gael meddyliau hunanladdol.

Yn awr wedi gwella'n llwyr, mae Sally wedi defnyddio ei phrofiad ei hun i gefnogi eraill drwy ei gwaith gyda'r elusen genedlaethol Action on Postpartum Psychosis (APP). Mae'n Gydlynydd Hyfforddiant i'r APP, ac mae'n cyd-ddylunio hyfforddiant mewn Seicosis Ôl-enedigol ac yn ei ddarparu i weithwyr proffesiynol iechyd ar draws y Deyrnas Unedig. 

Dywedodd Sally: "Mae mor bwysig i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl amenedigol. Pan roeddwn yn sâl, nid oedd tîm arbenigol yng Ngogledd Cymru, felly roeddwn i'n dibynnu'n drwm ar elusennau fel APP i'm helpu i wella o'm salwch, ac yn y pendraw, fe wnaethant achub fy mywyd.

"Mae APP yn darparu gwybodaeth gyfredol a chefnogaeth cymheiriaid sydd wedi ennill gwobrau i ferched a'u teuluoedd sydd wedi profi Seicosis Ôl-enedigol. Rydym yn helpu i godi ymwybyddiaeth, yn gweithio gyda gwasanaethau i wella gofal ar gyfer merched a'u teuluoedd, ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr i siarad â gweithwyr proffesiynol iechyd am Seicosis Ôl-enedigol, a'u cefnogi.

"Mae Tîm Iechyd Meddwl Amenedigol Gogledd Cymru wedi gweithio'n galed iawn i godi ymwybyddiaeth, ac mae'n wych eu bod wedi dewis i godi arian ar gyfer APP. Rwyf wir yn edrych ymlaen at gwblhau'r her hon gyda'n gilydd!

Dywedodd Donnalee Williams, Rheolwr Tîm Iechyd Meddwl Amenedigol:

"Rydym eisiau i famau newydd a mamau beichiog wybod ei bod yn eithaf cyffredin i gael trafferth â phroblemau iechyd meddwl, a gall rhannu sut maent yn teimlo gyda'u hymwelwyr iechyd, Meddyg Teulu neu unrhyw weithiwr proffesiynol iechyd sy'n rhan o'u gofal fod y cam cyntaf i gael y cymorth y maent ei angen.

"Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o salwch meddwl amenedigol, a'r gefnogaeth sydd ar gael i famau newydd a mamau beichiog, rydym hefyd yn cefnogi dwy elusen sy'n agos iawn at ein calonnau."

Os hoffech noddi'r tîm ewch i https://uk.virginmoneygiving.com/fundraiser-display/showROFundraiserPage?userUrl=DonnaleeWilliams&pageUrl=1

Am fwy o wybodaeth am ddwy elusen o ddewis y tîm, Action on Postpartum Psychosis a PANDAS Foundation, ewch i: http://www.pandasfoundation.org.uk/ a http://www.pandasfoundation.org.uk/