Mae tîm iechyd meddwl yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael eu rhoi ar y rhestr fer am wobr genedlaethol fawreddog.
Enillodd Staff o Ward Gofal Dwys Seiciatrig Tryweryn yn Uned Heddfan y gystadleuaeth allan o gannoedd o enwebiadau o ar draws y Deyrnas Unedig i gael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Tîm y Flwyddyn y Nursing Times.
Mae staff Ward Tryweryn wedi cael eu cydnabod am leihau yn sylweddol y digwyddiadau sy'n ymwneud ag atal drwy gyflwyno technegau i ddad-ddwysau sefyllfaoedd yn ddiogel ble mae cleifion yn cynhyrfu.
Mae'r ymgyrch ‘Heddiw mi Siaradon Ni’ wedi cael ei darparu mewn partneriaeth â CANIAD, sefydliad cyfranogiad defnyddwyr gwasanaeth, a gafodd adborth gan gleifion o ran sut yr hoffent gael eu trin pan maent mewn argyfwng.
Mae'r ymgyrch wedi cael ei hysbrydoli gan Heddiw Mi Fedraf- methodoleg newydd gwella ansawdd y bwrdd iechyd, sy'n annog staff i wneud y mwyaf o amser, lleihau amser sy'n cael ei wastraffu, a blaenoriaethu amser gyda chleifion.
Ers cael ei lansio ym mis Medi 2018, mae dull newydd Ward Tryweryn wedi arbed hyd at 22 awr o amser staff bob mis, sydd wedi cael ei ddefnyddio i gyflwyno ystod o weithgareddau therapiwteg newydd i gefnogi adferiad cleifion. Mae'r rhain yn cynnwys celf a chrefft, nosweithiau ffilm, garddio, ioga a ffitrwydd, a chynyddu argaeledd staff i fodloni anghenion cleifion.
Mae sgoriau boddhad cleifion wedi cynyddu'n sylweddol hefyd ers i'r ymgyrch gael ei chyflwyno.
Bydd y tîm yn rhoi cyflwyniad ar ymgyrch ‘Heddiw mi Siaradon Ni’ i banel beirniadu'r Nursing Times ym mis Medi, cyn mynychu seremoni fawreddog ym mis Hydref.
Dywedodd Matt Jarvis, Rheolwr Ward Tryweryn: "Rwyf wedi cael fy syfrdanu o ran sut mae ein staff wedi ymgymryd â'r her o newid yn gadarnhaol y diwylliant a'r ethos ar Ward Tryweryn. Maent wedi croesawu newid, ac wedi cymryd rôl ragweithiol i gefnogi cleifion pan maent yn profi argyfwng iechyd meddwl.
"Bu i'r tîm gydnabod y posibilrwydd o drawma sy'n gysylltiedig â chael eich atal. Mae Tîm Tryweryn wedi cymryd dull ymgysylltu cadarnhaol a siarad yn gyntaf er mwyn osgoi arfer rhwystrol. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i CANIAD am ein helpu i glywed lleisiau'r unigolion mwyaf bregus yn ein cymuned yn glir, a datblygu cynlluniau gweithredu ystyrlon i wella arfer."
Dywedodd Denise Charles, Rheolwr Caniad:
"Mae Tony Carr a Mel Williams, cynrychiolwyr Caniad wedi gweithio gyda chleifion a'u gofalwyr o ddechrau’r prosiect hwn, ac mae'r profiad byw hwnnw wrth galon popeth sydd wedi'i gyflawni.
"Mae'n ysbrydoledig gweld yr ymrwymiad i gyd-gynhyrchu, ac mae llais y cleifion wir wrth galon darpariaeth gwasanaeth a'i ddyluniad. Mae Caniad yn falch o fod wedi cael ei enwebu ochr yn ochr â staff ymroddgar ar ward Tryweryn ar gyfer tîm y flwyddyn. Rwy'n credu fod hyn yn dangos fod pawb wedi gweithio mewn ffordd wahanol, er mwyn rhoi'r unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau ar y blaen o ran datblygiad gwasanaeth."