Mae tîm ysbyty o Wrecsam sy'n cefnogi pobl yn y cyfnodau hwyrach o ddementia, wedi derbyn gwobr iechyd.
Mae staff ar Ward Gwanwyn yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi derbyn Gwobr Seren Betsi gan Gary Doherty, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn ystod ymweliad annisgwyl â Heddfan, Uned Iechyd Meddwl Pobl Hŷn yr Ysbyty.
Mae'r wobr fisol yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff a gwirfoddolwyr y GIG yng ngogledd Cymru.
Enwebwyd tîm Ward Gwanwyn, sy'n cynnwys meddygon, nyrsys, cymhorthwyr gofal iechyd, staff gweinyddol, therapyddion galwedigaethol a fferyllwyr, gan Zoe Jones, cyn reolwr ward.
Meddai: "Rwyf wir yn credu bod angen i'r holl staff dderbyn cydnabyddiaeth am y gwaith arbennig mae pob un yn ei wneud yn ddyddiol i gleifion sydd wedi derbyn diagnosis dementia.
"Yn aml iawn, pan fydd cleifion yn cael eu derbyn i Gwanwyn, maen nhw'n arddangos lefel uchel iawn o ymosodedd, ffwndro a phryder. Mae'r staff yn rheoli sefyllfaoedd anodd a gofidus iawn yn ddyddiol, nid yn unig gan gleifion, ond perthnasau hefyd, oherwydd bod eu bywydau nhw hefyd wedi'u difetha oherwydd diagnosis y perthynas a'r ymddygiad sy'n dod gyda'r salwch.
"Bydd staff yn parhau i fwyafu profiadau’r cleifion drwy ymdrin â nhw'n sensitif a'u trin â'r parch mwyaf, sef yr hyn mae'r cleifion a'u teuluoedd yn eu haeddu.
"Mae'r gwaith tîm a ddangosir gan y staff rheolaidd craidd a'r staff banc hefyd, y mae'r staff yn dibynnu arnynt o ddydd i ddydd, yn anhygoel, ac nid wyf prin wedi profi gwell yn unrhyw le arall."
Cyflwynodd Gary Doherty, Prif Weithredwr BIPBC y wobr i dîm Ward Gwanwyn, gan ganmol eu hymroddiad ac ymrwymiad.
Meddai: "Mae'r staff ar Ward Gwanwyn wir yn gaffaeliad i'r Bwrdd Iechyd. Maen nhw'n ymroddedig i fynd y filltir ychwanegol er mwyn darparu'r gofal yn canolbwyntio ar yr unigolyn gorau posibl i bobl â dementia a'u teuluoedd yn ystod cyfnodau a all fod yn anodd.
"Mae'n bleser gen i gyflwyno Gwobr Seren Betsi, sy'n arwydd bach o werthfawrogiad y Bwrdd Iechyd i'r gofal arbennig maen nhw'n ei ddarparu i'n cleifion."