Neidio i'r prif gynnwy

Therapydd Iaith a Lleferydd yn cael ei chydnabod â phrif wobr iechyd

Mae Therapydd Iaith a Lleferydd ysbrydoledig sy’n mynd gam ymhellach yn ei rôl wedi derbyn gwobr arbennig. 

Derbyniodd Carol Davies-Owen, sy’n arwain y Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol o fewn Gwasanaethau Therapi Iaith a Lleferydd Paediatrig ar draws Gwynedd ac Ynys Môn, y wobr ‘Gweithio mewn Partneriaeth’, a noddwyd gan Brifysgol Glyndwr Wrecsam, yng Ngwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eleni.

Mae Carol wedi sefydlu cydweithio effeithiol ag ysgolion arbennig sydd wedi’i chaniatáu i greu darpariaeth ar lefel gyffredinol i gefnogi sgiliau cyfathrebu pob disgybl sy’n mynd i’r ysgolion hyn, nid y rheiny sydd dan wasanaethau Therapi Iaith a Lleferydd yn unig. Mae’r disgyblion sy’n mynychu’r ysgolion hyn yn cael eu cefnogi i ddatblygu cyfathrebu effeithiol.

Mae Carol ar hyn o bryd yn cefnogi Canolfan Addysg y Bont yn Llangefni, Ysgol Hafod Lon ym Mhenrhyndeudraeth ac Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon i gyflawni achrediad statws ‘Lleoliad sy’n Deall Cyfathrebu’ y mae galw mawr amdano, a fydd y cyntaf o’r achrediadau hyn i’w gyflwyno i unrhyw ysgol yng Nghymru pan fydd yn cael ei gyflawni.

Dywedodd ei chydweithiwr, David Hostler, Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol a’i henwebodd am y wobr: “Mae Carol yn enillydd haeddiannol iawn o’r wobr hon, mae’n hyrwyddwr ysbrydoledig ar gyfer pwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol a chyraeddadwy i’r holl blant a phobl ifanc, dim ots pa heriau y maent yn ei wynebu mewn bywyd.

“Mae Carol yn meddwl am gyfathrebu yn wahanol i therapyddion eraill yr wyf wedi gweithio gyda nhw yn y gorffennol, yn y ffaith ei bod yn teimlo’n gryf iawn bod cyfathrebu’n rhan hanfodol o bopeth a wnawn fel bodau dynol ac felly, nid ydym fel therapyddion iaith a lleferydd yn gallu bod yn gwbl gyfrifol amdano oherwydd ni allwn fyth gefnogi pawb yn uniongyrchol bob amser. 

“Dyna pam mae Carol yn gweithio mewn partneriaeth mor dda ac mae’n gweithio mor galed i rymuso eraill i hyrwyddo a chefnogi cyfathrebu.

“Gweledigaeth Carol yw bod lleoliadau addysg arbennig yn datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau eu hunain i gefnogi cyfathrebu yn annibynnol ym mhob amgylchedd, yn hytrach na dibynnu ar ymweliadau uniongyrchol gan Therapi Iaith a Lleferydd. Mae’n awyddus i rannu’r neges bod cyfathrebu i gyd o’n cwmpas ac felly mae angen y sgiliau ar bawb i gefnogi disgyblion i gyfathrebu’n effeithiol.

“Mae wedi cefnogi ysgolion i roi ystod eang o ymyraethau a strategaethau cefnogi cyfathrebu ar waith yn hyderus fel y gall staff dysgu a chefnogi eu cyflwyno yn yr ysgolion yn annibynnol.  Mae hyn wedi grymuso staff ysgol a theuluoedd i fuddsoddi mewn datblygu cyfathrebu, gan sicrhau ei fod yn cael ei fewngorffori ym mhob gweithgaredd.”

Mae’r gwobrau, a noddwyd gan Centreprise International, yn dathlu cyraeddiadau arbennig staff y GIG ar draws Gogledd Cymru.

Dywedodd Jeremy Nash, Prif Weithredwr Centerprise International:  "Roedd yn fraint cael bod yn brif noddwr yng Ngwobrau Cyrhaeddiad Staff y Bwrdd Iechyd am y drydedd flwyddyn yn olynol. Roedd y gwobrau'n gyfle gwych i gydnabod yr holl bobl anhygoel sy'n gweithio i’r GIG ar draws Gogledd Cymru.

“Mae Centerprise yn ymrwymedig i gefnogi'r gymuned Cymreig a'r GIG yn gyfartal.   Rydym yn falch i gael ein cynrychioli yn y gwobrau, a oedd yn ddathliad gwych o ymdrechion ardderchog y Bwrdd Iechyd a'i staff ymroddedig."

Dywedodd Madi Ruby, Deon Cyswllt, Cyfadran Gwyddorau Bywyd a Chymdeithasol ym Mhrifysgol Glyndwr, a gyflwynodd y wobr: “Rydym yn falch o gefnogi Gwobrau Cyrhaeddiad y Bwrdd Iechyd am yr ail flwyddyn. Roedd pob un o’r enwebiadau yn ysbrydoledig iawn. Roedd Carol yn enillydd teilwng o’r Wobr Gweithio mewn Partneriaeth. Mae ei hymdrechion i helpu plant ysgol i fagu hyder a datblygu eu sgiliau cyfathrebu yn arbennig iawn.”