Mae Therapydd Galwedigaethol sy'n mynd y filltir ychwanegol i gleifion gofal lliniarol wedi ennill gwobr gan y GIG yng Ngogledd Cymru.
Mae Fabienne Rigotti, sy'n gweithio gyda phobl sy'n derbyn triniaeth yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru, wedi ennill gwobr Seren Betsi.
Cafodd Fabienne ei henwebu gan Jackie Pottle a Debra Tucker, cyd-Therapyddion Galwedigaethol Gofal Lliniarol, sy'n gweithio gyda hi yn Ysbyty Glan Clwyd.
Roeddent am gydnabod diwydrwydd ac ymroddiad Fabienne o ran gofalu am gleifion a'i hymdrechion i ddod o hyd i offer newydd ac arloesol ar gyfer pobl ar draws Conwy a Sir Ddinbych.
Mae ei hymdrechion yn cynnwys ymchwil ddiflino i fanteisio ar adnoddau i'w chleifion, a chanolbwyntio ar gynnal annibyniaeth ac urddas pobl yn ei gofal.
Roedd enghraifft o'i hymroddiad i ofal eithriadol yn cynnwys tynnu ffotograff o hoff olygfa claf gofal lliniarol er mwyn iddo ei mwynhau tra’r oedd yn derbyn gofal diwedd oes.
Dywedodd Fabienne, sydd wedi rhoi gofal yn y gymuned dros y pedair blynedd diwethaf: "Sioc o'r mwyaf yw ennill y wobr hon, ac rydw i'n hynod ddiolchgar bod pobl wedi rhoi o'u hamser i f'enwebu i.
"Rydw i wrth fy modd gyda beth rydw i'n ei wneud ac mae'r bobl rydym yn gofalu amdanynt a'u teuluoedd yn bwysig iawn i mi, mae'n fraint wirioneddol cael gweithio gyda nhw.
“Rydym ni'n dîm gwych ac rydym ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i ofalu am grŵp hynod arbennig o bobl, ac mae derbyn y wobr hon am y gwaith rydym ni'n ei wneud gyda'n gilydd yn golygu'r byd i mi."
Gall staff y GIG ar draws Gogledd Cymru enwebu cydweithwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol er mwyn cyfrannu at wasanaethau iechyd am wobr Seren Betsi.
Dywedodd Jackie: "Mae hi'n cynnwys yr holl gleifion mewn trafodaethau gonest ac ystyrlon am eu gofal, ac mae hi bob amser yn mynd tu hwnt i'r safon ddisgwyliedig.
“Cawsom glaf gyda ni a oedd yn gofidio nad oedd yn ddigon iach i fynd i weld man lleol â golygfeydd hardd. Aeth Fabienne ati i dynnu ffotograff o'r olygfa honno gan ei rhoi ar gerdyn i'r claf ei mwynhau cyn marw.
“Mae Fabienne yn ddiymhongar tu hwnt a wnaeth hi ddim hyd yn oed sôn am hyn wrth y tîm, roeddem ni ond yn gwybod ar ôl i berthynas y claf ein ffonio i ddweud faint oedd hynny'n ei olygu iddi.
“Dyna enghraifft wych o bwysigrwydd gwirioneddol ei chleifion iddi."
Dywedodd Debra: “Bydd Fabienne yn dod o hyd i offer anodd ei gael i'w chleifion fel mater o drefn, yn enwedig i bobl sydd ag afiechyd niwronau motor.
“Mae ei dyfalbarhad yn arwain at ofal o ansawdd rhagorol i gleifion, gan ganiatáu iddynt barhau i fod yr un mor annibynnol am gymaint o amser â phosibl.
“Os bydd yn dod o hyd i ymyriad neu offer a fyddai'n fuddiol i eraill, mae hi wastad yn trefnu i'r wybodaeth hon gael ei rhannu fel bod modd i'r tîm ehangach elwa ar ei hymdrechion hefyd.
“Mae'r holl gleifion, teuluoedd a chydweithwyr yn meddwl y byd o Fabienne. Mae Therapi Galwedigaethol a gofal lliniarol yn lwcus i gael ei chyfraniad yn cefnogi cleifion."
Dywedodd y Prif Weithredwr, Gary Doherty, a roddodd syrpréis i Fabienne yn y swyddfa lle mae'n gweithio yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru,: “Mae Fabienne yn gwneud gwaith heriol iawn, yn gofalu am bobl mewn amgylchiadau anodd iawn.
“Mae hi'n dod â thrugaredd, gofal a sgiliau datrys problemau gwych i'w rôl.
“Yn bwysicaf oll, mae ei chleifion a'i chydweithwyr yn meddwl y byd ohoni, ac mae'n bleser gennym ni gyflwyno'r wobr haeddiannol iawn iddi.”