15 Mehefin 2022
Mae Theatr Llawdriniaeth Ysbyty Llandudno wedi ailagor mewn cam pwysig tuag at leihau nifer y cleifion sy’n aros am lawdriniaethau.
Ail-agorodd yr uned yn ystod mis Mai 2022 ac mae'n trin cleifion llawdriniaeth achosion dydd, sy'n golygu nad oes angen i'r claf aros dros nos.
Mae triniaethau torgest, y goden fustl a rhai triniaethau Orthopaedeg yn cael eu cynnal yn y theatr i helpu i gynyddu'r capasiti sydd ar gael i drin mwy o gleifion sy'n aros am lawdriniaethau.
Mae Mr Graham Whiteley, Arweinydd Clinigol ar gyfer Llawfeddygaeth yn Ysbyty Gwynedd, sydd wedi defnyddio Theatrau Llawdriniaeth Ysbyty Llandudno ers dros 20 mlynedd, wedi croesawu ailagor y cyfleuster.
Dywedodd: “Mae Theatr Llandudno yn lleoliad delfrydol ar gyfer llawdriniaeth achosion dydd o'i chyfuno â chyfleusterau ward yn yr ysbyty.
“Mae cleifion yn gwerthfawrogi’r awyrgylch hamddenol yn Ysbyty Llandudno pan fyddant yn profi cyfnod pryderus sy’n gysylltiedig â llawdriniaeth.
“Mae'n bosib trin nifer fawr o achosion gan gynnwys llawdriniaethau torgest a'r goden fustl pan fydd y theatr yn cael ei defnyddio'n effeithlon. Rwy'n ystyried Llandudno fel falf diogelwch defnyddiol pan nad yw gwelyau yn Ysbyty Gwynedd ar gael am ba bynnag reswm.”
Helen Wilson, o Lanfairfechan, oedd un o'r cleifion Orthopaedeg cyntaf i dderbyn llawdriniaeth yn dilyn ailagor y theatr.
Cafodd Helen ddiagnosis o Syndrom Twnnel y Carpws, sef pwysau ar y nerf yn yr arddwrn sy'n achosi merwino, diffyg teimlad a phoen yn y llaw a'r bysedd.
Dywedodd hi: “Roeddwn i fod i gael fy llawdriniaeth twnnel y carpws yn 2020 ond cafodd ei ganslo oherwydd y pandemig.
“Roeddwn i wedi bod yn ymdopi ond roedd y boen yn mynd o ddrwg i waeth ac roeddwn yn teimlo pinnau bach yn fy mraich yn gyson.
“Cefais fy nhrin yn y clinig yn ystod mis Mai 2022 a chefais fy rhestru ar gyfer llawdriniaeth yn gyflym iawn, ac rwy’n ddiolchgar am hynny.
“Rwy’n meddwl ei bod yn wych bod y theatr ar agor yn Llandudno bellach fel y gallant drin mwy o achosion fel fy un i ac mae staff y ward a’r theatr hefyd yn wych ac roeddent mor gyfeillgar yn ystod fy amser yno.”
Mae llawfeddyg Helen, Meddyg Ymgynghorol Trawma ac Orthopaedeg, Mr Satya Pydah wedi croesawu ailagor y theatr yn Llandudno i gynnal mwy o lawdriniaethau achosion dydd.
Dywedodd: “Mae Theatr Llandudno yn lleoliad gwych i ni gynnal triniaethau llai fel llawdriniaeth twnnel y carpws a llawdriniaeth arthrosgopig.
“Mae gennym ni dîm theatr gwych yma ynghyd â chyfleuster gwych a fydd yn ein helpu i fynd i’r afael â’n rhestrau aros.”
Ychwanegodd Dirprwy Arweinydd Tîm y Theatr, Minaxi Patel: “Mae’n newyddion gwych bod llawdriniaethau achosion dydd dewisol yn ailddechrau yn Theatr Llandudno sy’n cynnal Llawdriniaethau Orthopaedeg a Chyffredinol ar hyn o bryd.
“Mae gennym ni dîm gwych o staff theatr sy’n gyffrous, yn ymroddedig ac yn edrych ymlaen at ddarparu gwasanaeth rhagorol i theatrau. Hefyd yn darparu gofal agos-atoch, cyfeillgar a phroffesiynol i'r cleifion. Mae cleifion wedi dweud pa mor lân yw ein theatrau, yn hapus gyda'u gofal personol ac yn derbyn gwasanaeth cyfeillgar gan staff y theatr.
“Rydym yn croesawu gweld y cleifion yma - mae gennym ni ran fawr i’w chwarae ac mae'r canlyniad yn bositif wrth leihau'r amseroedd aros a mynd i'r afael â'r achosion."