Neidio i'r prif gynnwy

Teyrnged i Rizal Manalo, Nyrs ar Ward 5, Ysbyty Glan Clwyd

Gyda thristwch mawr y rhannwn y newyddion am farwolaeth Rizal Manalo, a oedd yn gweithio fel nyrs ar Ward 5 Ysbyty Glan Clwyd.

Bu farw Rizal, a elwid yn Zaldy gan ei ffrindiau a chydweithwyr, ddydd Sul ar ôl cael ei drin yn uned gofal critigol yr ysbyty dros yr wythnosau diwethaf.

Roedd Zaldy, 51, wedi gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Abergele ers mis Awst 2001, pan gafodd ei recriwtio o Ynysoedd y Philippine i weithio yng Ngogledd Cymru.  Roedd gan ei gleifion a’i gydweithwyr barch a chariad mawr tuag ato.

Dywedodd ei wraig, Agnes: “Mae Zaldy yn gweithio’n galed ac yn hoff iawn o’i waith. Mae’n ŵr da a thad annwyl i’w blant. Roedd yn ein hamddiffyn ac yn gofalu amdanom.”

Dywedodd Karen Davies, Metron Ward 5: “Byddai Zaldy bob amser yn eich cyfarch â gwên yn y bore ac roedd ganddo stori bob amser. Roedd yn aelod gofalgar a thosturiol o’r tîm, gŵr bonheddig go iawn.

“Dywedodd cydweithiwr a ffrind i’r teulu eu bod yn ei alw yn “kuya”, brawd hŷn ymhlith y gymuned Filipino. Roedd wrth ei fodd yn cymdeithasu a chanu, yn enwedig cymryd rhan mewn carioci. Roedd ei waith hefyd yn bwysig iddo gan ei fod yn caru ei swydd.”

“Bydd hiraeth mawr ar ei ôl i’w wraig Agnes a’i ddau o blant, Nicole 21 a Dylan 16.”

Dywedodd Rab McEwan, Rheolwr Gyfarwyddwr Ysbyty Glan Clwyd: “Roedd Zaldy yn aelod poblogaidd, uchel ei barch o’r tîm nyrsio ar Ward 5 a bydd gennym hiraeth mawr ar ei ôl.

“Mae bob amser yn anodd pan fydd rhywun sy’n gweithio i’r GIG yn marw’n gynnar. Rydym yn ddigalon iawn ac yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at deulu, cydweithwyr a chyfeillion Zaldy.”

Dywedodd Alison Griffiths, Cyfarwyddwr Nyrsio yn Ysbyty Glan Clwyd: “Roedd Zaldy yn unigolyn annwyl iawn, ac roedd ei gydweithwyr yn hoff iawn ohono ac yn uchel eu parch tuag ato.  

“Roedd yn angerddol am nyrsio, yn ymroddedig i’r proffesiwn ac roedd bob amser yn rhoi ei gleifion yn gyntaf. Rydym yn cydymdeimlo’n ddidwyll â’i deulu ac yn gobeithio eu bod yn cael cysur o’r atgofion sydd ganddynt ohono.  

“Mae wedi rhoi llawer o atgofion melys i ni ac mae wedi bod yn anrhydedd gweithio gydag ef. Bydd colled fawr ar ei ôl a bydd yn ein calonnau am byth.”

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Simon Dean a’r Cadeirydd Mark Polin: “Hoffem fynegi ein tristwch am y golled fawr hon, a chynigiwn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu, ffrindiau a chydweithwyr Zaldy yn Ysbyty Glan Clwyd.

“Bydd hiraeth mawr ar ei ôl, ac mae ein dyled yn fawr iddo am y gofal a’r gwasanaeth a roddodd i’r Bwrdd Iechyd dros y 19 mlynedd diwethaf.”