Mae teulu dynes a dreuliodd chwe mis yn Ysbyty Gwynedd yn ymladd COVID-19 wedi canmol y staff ar yr Uned Gofal Dwys (ICU) am achub ei bywyd.
Gwnaeth staff glapio a bloeddio cymeradwyaeth wrth i Donna Jones, 43 oed, gael bod gyda'i theulu eto ar ôl gadael yr ysbyty'n gynharach y mis hwn.
Aeth Donna, o Lanfachraeth yn Ynys Môn, yn sâl iawn gyda COVID-19 ym mis Mawrth 2021. Treuliodd bum mis ar yr Uned Gofal Dwys ac yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd mewn coma artiffisial, a chafodd ei rhoi ar beiriant anadlu.
Dywedodd ei chwaer, Della Jones: "Roedd Donna yn hynod sâl, yn fuan ar ôl iddi gael ei derbyn i ICU, gwnaeth ei chyflwr ddirywio a bryd hynny, nid oeddem ni’n meddwl y byddai hi’n dod trwyddi.
"Roedd yn gyfnod anodd iawn i ni fel teulu, oherwydd y cyfyngiadau ymweld a oedd ar waith, ni allem weld Donna gymaint ag y byddem wedi hoffi gwneud ond cawsom ddiweddariadau bob dydd gan y tîm ar ICU.
"Am y pedwar mis cyntaf, nid oedd Donna yn gwella a chawsom wybod y dylem ni baratoi ar gyfer y gwaethaf.
"Wythnos yn ddiweddarach, wrth i ni geisio dod i delerau â'r newyddion bod Donna yn annhebygol o gael dod adref atom, cawsom alwad gan un o'r nyrsys a roddodd wybod i ni fod Donna wedi agor ei llygaid! Ni allem ni gredu'r peth, roedd y newyddion yma'n anhygoel a rhoddodd hyder i ni fod Donna yn ymladd y cyflwr ac y gallem ni ddechrau teimlo'n obeithiol eto."
Gwnaeth Donna barhau i dderbyn triniaeth ar ICU dros yr ychydig fisoedd dilynol a oedd yn cynnwys sesiynau ffisiotherapi i'w helpu i adennill ei nerth.
Cafodd y sesiynau ffisiotherapi hynny eu darparu gan Sam Njoku, sef Ffisiotherapydd Resbiradol Arbenigol Clinigol a ddatblygodd berthynas agos â Donna wrth iddi ddechrau ar ei hadferiad.
Dywedodd: "Roedd gan Donna ei meddylfryd arbennig ei hun ond uwchlaw popeth, roedd yn bositif iawn ac yn fywiog cyn gynted ag yr oeddem ni wedi meithrin perthynas.
"Rydw i'n hapus ei bod wedi ymddiried ynom ni fel tîm a gwnaeth hyn ei helpu yn ystod ei chyfnod gyda ni yn yr ysbyty.
"Rydw i wir yn gobeithio y bydd modd iddi elwa ar y cyfleodd adsefydlu sydd ar gael yn y gymuned er mwyn gwella ansawdd ei bywyd."
Er mwyn diolch i'r tîm ar ICU a'r staff ar Ward Moelwyn, a fu'n gofalu am Donna yn ystod ei hwythnosau olaf yn yr ysbyty, mae teulu Donna wedi codi arian ac maent wedi cyflwyno rhoddion i'r staff.
"Nid oes geiriau i ddisgrifio pa mor ddiolchgar ydym ni fel teulu am yr hyn y mae staff yr ysbyty wedi'i wneud er mwyn Donna.
"Mae hyn wedi dangos i ni pa mor anhygoel yw pobl sy'n gweithio yn y GIG, nid yn unig maen nhw wedi bod yno i Donna ond maen nhw wedi bod yno i ni fel teulu.
"Rydym ni'n teimlo ein bod wedi dod i adnabod y staff yn arbennig o dda dros y chwe mis diwethaf, byddai Sam, er enghraifft, yn trefnu sesiwn Facetime i ni gyda Donna ac roedd o gysur mawr gwybod ei bod mewn dwylo da ac yn derbyn gofal rhagorol.
"Rydym wedi codi rhyw £1000 tuag at yr uned a hefyd wedi cyflwyno rhoddion iddyn nhw ac i staff Moelwyn er mwyn diolch iddyn nhw am bopeth maen nhw wedi'i wneud.
"Gwnaethant achub bywyd fy chwaer, a byddaf yn ddiolchgar am hynny am byth," ychwanegodd Della.
Dywedodd Kate Evans, Rheolwr Ward ICU: "Rydym yn hynod ddiolchgar am yr anrhegion hyfryd a'r rhodd hael gan deulu Donna.
"Roedd Donna yn glaf i ni am gryn amser a gwnaeth pob un ohonom ddod i'w hadnabod hi'n dda. Mae'n wych gweld cleifion yn gwella ac yn gallu mynd adref ac roedd pob un ohonom yn falch iawn o glywed bod Donna yn cael ei rhyddhau.
"Dymunwn bob hwyl i Donna yn ei hadferiad."