Mae plant sy’n cael llawfeddygaeth yn Ysbyty Gwynedd nawr yn teimlo’n llai pryderus diolch i rodd garedig o dedi bêrs.
Gwnae y rhodd gan Teddies for Loving Care (TLC) drwy Seiri Rhyddion Gogledd Cymru.
I roi hyd yn oed mwy o gysur i’n cleifion ieuengaf, mae staff caredig y theatr hefyd yn rhoi neges bersonol ar y tedi i’r plant ei ddarllen pan fyddant yn deffro o’u llawfeddygaeth.
Meddai Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd y Theatr, Pat Crisp: “Gall plant fod yn bryderus iawn pan fyddant yn dod i mewn am eu llawfeddygaeth felly rydym yn gwneud ein gorau i’w cadw mor dawel ac ymlaciol â phosib.
“Dechreuais ychwanegu neges i’w teganau a’u tedis eu hunain tua 13 mlynedd yn ôl gan ei fod yn dod â chysur iddyn nhw wrth iddynt ddeffro o’u llawfeddygaeth.
“Mae hefyd yn ffordd o dynnu eu sylw pan fyddant yn deffro o anesthetig gan eu bod yn awyddus i ddarllen y neges gan eu tedi sy’n rhoi gwybod iddynt ba mor ddewr maen nhw wedi bod.”
Yn gynharach eleni, penderfynodd y Nyrs Staff Rebecca Hendry gysylltu â TLC i ofyn am rodd o dedi bêrs ar gyfer tîm y theatr i’w rhoi i’w cleifion ieuengaf.
Meddai: “Rydym yn ddiolchgar iawn i TLC a’r Seiri Rhyddion yng Ngogledd Cymru sy’n ein helpu ni i roi cysur i’r plant sy’n dod am eu llawdriniaethau.
“I blentyn, gall cael llawdriniaeth fod yn ofidus iawn, iddyn nhw a’u rhieni – ac yn barod mae’r tedis yma yn gweithio’n effeithiol ac rydym wedi derbyn adborth cadarnhaol.
“Roeddwn i’n meddwl fod y tag neges yn syniad mor dda gan Pat ac mae hyn wedi bod yn gysur mawr i blant dros y blynyddoedd ar eu tedi bêrs eu hunain, felly roedden ni’n awyddus i barhau â hyn.
“Mae’r plant wrth eu boddau gyda’r tedis ac maen nhw’n cael mynd â’r tedi yn ôl ar y ward ac yna gartref gyda nhw.”