Neidio i'r prif gynnwy

Technoleg o'r radd flaenaf yn helpu i ganfod canser yr ysgyfaint yn gynnar

Mae technoleg newydd a fydd yn helpu i ganfod canser yr ysgyfaint yn ei gamau cyntaf bellach ar gael i gleifion ar draws Gogledd Cymru.

Mae Broncosgopi Llywio Electromagnetig (ENB) yn defnyddio technoleg fel GPS i greu map 3D o'r ysgyfaint.  Yna, mae'r map yn helpu'r meddyg i arwain y cathetr drwy lwybrau anadlu mwyaf cymhleth yr ysgyfaint. 

Mae'n driniaeth sy'n creu archoll mor fach â phosib yn caniatáu i feddygon roi diagnosis a pharatoi at drin anafiadau canser drwy ddefnyddio triniaeth unigol, cyn gynted â phosib. 

Caiff y driniaeth ei chynnal yn Ysbyty Glan Clwyd gan dîm Canser yr Ysgyfaint, sy'n cynnwys Dr Robin Poyner, Dr Daniel Menzies, Dr Sakkarai Ambalavanan a Dr Abou Haggar. 

Ysbyty Glan Clwyd yw'r ysbyty cyffredin dosbarth cyntaf yng Nghymru, a dim ond yr ail yn y DU i ddefnyddio'r System Illumisite Navigation gan Medtronic. 

Dywedodd Dr Daniel Menzies, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Anadlol:  "Hyd yn hyn, mae wedi bod yn anodd cael diagnosis cynnar, weithiau oherwydd lleoliad y canser ym mrest y claf. Gyda'r darn newydd hwn o offer, gall ganfod canser yr ysgyfaint yn ei gamau cynnar, weithiau cyn i symptomau eraill ddod i'r amlwg. 

"Mae hyn yn golygu bod potensial am driniaeth gynharach a chanlyniad da i'r claf."

Un claf sydd wedi elwa o'r dechnoleg newydd yn barod yw Ann Bedford, o Gaergybi, a gafodd gynnig y driniaeth yn ystod treial y flwyddyn ddiwethaf. 

Cafodd y ddynes 74 mlwydd oed ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint dair blynedd yn ôl i ddechrau, yn ei hysgyfaint chwith, a'r flwyddyn ddiwethaf darganfuwyd bod y canser wedi dychwelyd. 

Dywedodd: "Pan gefais y diagnosis cyntaf o ganser yr ysgyfaint roedd rhaid i mi gael llawdriniaeth a chemotherapi. 

"Y flwyddyn ddiwethaf, es i'n ôl i'r ysbyty ar ôl bod yn sâl ac yn dilyn ychydig o brofion, cefais fy nghyfeirio at Ysbyty Glan Clwyd ble gefais gynnig y driniaeth newydd hon. 

"Rhoddodd hwn y diagnosis am yr ail ganser yn fy ysgyfaint dde yn llawer cynt ac roedd y driniaeth yn creu archoll llai - roedd y staff yn wych ac yn egluro'r broses yn glir iawn i mi.

"Oherwydd bod y canser wedi ei ganfod yn gynnar, roedd hynny'n rhoi opsiynau ar ba driniaeth y gallwn ei gael a bellach dim ond cwrs byr o radiotherapi sydd ei angen arnaf.

"Mae'r dechnoleg fodern sydd gennym nawr yn wych - bydd yn helpu cymaint o bobl yng Ngogledd Cymru." 

Ariannwyd y dechnoleg, gwerth £130,000, gan roddion hael cleifion a’r gymuned trwy elusen GIG Gogledd Cymru, Awyr Las. 

Dywedodd Dr Robin Poyner, Meddyg Ymgynghorol ar gyfer Meddygaeth Anadlol ei fod ef a'r tîm yn hynod ddiolchgar am y rhoddion sydd wedi eu caniatáu i brynu'r offer hwn a all achub bywydau. 

Dywedodd: "Rydym yn ddiolchgar iawn i Awyr Las am eu cymorth wrth brynu'r offer ENB sydd ei angen arnom i ehangu'n gwasanaeth ymhellach. 

"Drwy gyflwyno'r gwasanaeth newydd hwn, bydd yn lleihau'r amseroedd aros ar gyfer biopsi ysgyfaint o dan arweiniad CT ac yn lleihau nifer yr apwyntiadau sgan CT dilynol, a fydd yn fudd enfawr i'n cleifion.  

"Gall y mwyafrif o gleifion sy'n cael triniaeth ENB fynd gartref ar yr un diwrnod felly mae hwn yn gam enfawr ymlaen mewn technoleg i ni, a bydd yn arwain at wellhad sylweddol mewn gofal canser yng Ngogledd Cymru.”

Ychwanegodd Kirsty Thomson, Pennaeth Codi Arian ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:  "Mae hwn yn enghraifft wych o sut y gall rhoddion i'n gwasanaethau gofal iechyd helpu staff ar y rheng flaen i arwain y ffordd mewn darparu triniaeth newydd ac arloesol. 

"Ariannwyd yr offer diolch i gannoedd o roddion hael gan bobl leol a oedd eisiau rhoi i ddweud diolch, neu roi i helpu i sicrhau bod cleifion yma yng Ngogledd Cymru yn derbyn y gofal gorau. 

"Rydym yn hynod ddiolchgar i'r rhai a gododd yr arian sydd wedi gwneud hyn yn bosib."

Roedd Mike Pidding, o Medtronic, hefyd yn dymuno diolch i'r elusen am y cymorth i brynu'r offer.

Ychwanegodd: "Hoffem ddiolch i'r elusen am brynu'r system ac i'r meddygon ymgynghorol am eu hymrwymiad a'u hangerdd i osod a chynnig y gwasanaeth i gleifion Gogledd Cymru. 

"Heb yr elusen a'r rhoddion, ni fyddai hyn wedi bod yn bosib."