Mae tair nyrs sydd wedi eu lleoli ar draws y Bwrdd Iechyd wedi derbyn gwobr fawreddog i gydnabod eu cyfraniad i'r proffesiwn.
Cyflwynwyd gwobr a theitl Nyrs y Frenhines i Nia Boughton sy'n Nyrs Ymgynghorol mewn Gofal Cychwynnol, Karen Bampfield sy'n Fetron Cymunedol ar gyfer Dwyfor a Meirionnydd yng Ngwynedd a Viki Jenkins sy'n Uwch Ymarferydd Nyrsio Methiant y Galon yn Seremoni Wobrwyo Flynyddol y Queen’s Nursing Institute (QNI) ar 13 Rhagfyr 2021.
Dyfernir y teitl i nyrsys sydd wedi dangos lefel uchel o ymrwymiad i ofal cleifion ac arfer nyrsio.
Dywedodd Viki, sy'n cynnal clinigau calon ledled Gwynedd: “Rydw i a Karen yn hynod falch ac wedi cyffroi o dderbyn y wobr bwysig hon.
“Mae hefyd wedi creu argraff arnom gan fod ein cais yn un o 1,300 a gyflwynwyd eleni.”
Ychwanegodd Karen: "Bydd ein cysylltiadau â'r gymuned QNI yn ein galluogi i ddod â gwybodaeth newydd yn ôl i'n hardaloedd lleol a datblygu cysylltiadau â nyrsys yn y DU a thu hwnt i gefnogi a datblygu'r gwaith sy'n digwydd yn ein hardal leol."
Dywedodd Nia, a enillodd Wobr Arfer Uwch ac Arbenigol Coleg Brenhinol Nyrsio Cymru yn gynharach eleni, ei bod yn teimlo ei bod yn fraint o’r mwyaf derbyn y wobr hon.
“Rwy’n hynod falch ac mae’n fraint derbyn teitl Nyrs y Frenhines a chael fy nghroesawu i'r Queen's Nursing Institute, a fydd yn ei dro yn fy nghefnogi yn fy ymroddiad i ddatblygiad arfer parhaus a’r ymdrech i gael gofal rhagorol i gleifion ar draws Gofal Cychwynnol,” meddai.
Yn llongyfarch y tair nyrs ar eu llwyddiant, dywedodd Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Ar ran y Bwrdd Iechyd hoffwn longyfarch Viki, Karen a Nia am gael eu cydnabod gan y Queen's Nursing Institute.
“Mae'r tair yn glod i'r proffesiwn nyrsio ac rydym yn hynod falch o'r effaith maen nhw'n parhau i'w chael, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn."