Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gael mynediad at wasanaethau deintyddol

Gall pobl barhau i gael mynediad at wasanaethau deintyddol brys yng Ngogledd Cymru yn ystod yr ymateb i'r pandemig COVID-19.

Mae nifer cyfyngedig o apwyntiadau ar gael ar gyfer clinigau deintyddol brys yn ystod y dydd ac ar y penwythnos drwy drefnu apwyntiad yn unig, a gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar ein gwefan.

Mae'r wefan yn cynnwys manylion am glinigau deintyddol brys sydd ar gael ar Ŵyl y Banc (25 Mai)  yng Nghlinig Deintyddol Llanfairpwll, Ysbyty Brenhinol Alexandra ac yn Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy.

Os ydych chi wedi cofrestru gyda phractis deintyddol ar hyn o bryd, cysylltwch gyda'r practis yn y lle cyntaf oherwydd efallai y byddwch yn cael cynnig apwyntiad brys. Os yw'r practis yr ydych wedi cofrestru ynddo wedi cau neu os nad ydych wedi cofrestru â phractis yna cysylltwch â Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.

Fe'ch cynghorir os ydych chi'n bresennol mewn clinig apwyntiad yn unig heb apwyntiad, efallai y cewch eich gwrthod gan fod eu rhestr apwyntiadau'n llawn yn gyffredinol.