Neidio i'r prif gynnwy

Staff yn sôn am lawenydd a rhyddhad wrth i gleifion iechyd meddwl sy'n agored i niwed dderbyn y brechlyn COVID-19

22.01.21

Mae staff y GIG sy'n gofalu am bobl hŷn gyda salwch meddwl difrifol yn yr ysbyty wedi sôn am eu llawenydd a'u rhyddhad wrth weld eu cleifion sy'n agored i niwed yn derbyn y brechlyn COVID-19.

Mae cleifion dros 80 mlwydd oed ar wardiau iechyd meddwl mewn ysbytai ar draws Gogledd Cymru ymysg y rhai sydd wedi derbyn y brechlyn yn yr wythnosau diweddar, gyda'r staff yn galw hyn yn garreg filltir anferth yn y frwydr yn erbyn y pandemig.

Mae gan gleifion ar wardiau iechyd meddwl pobl hŷn salwch meddwl difrifol neu ddementia cymhleth yn aml, a all gwneud eu hamddiffyn rhag haint COVID-19 yn arbennig o heriol.

Ers dechrau'r pandemig, mae staff o fewn gwasanaethau anableddau dysgu ac iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno newidiadau sylweddol i'r arferion gwaith er mwyn cadw cleifion yn ddiogel.

Ymysg y rhai sydd wedi derbyn y brechlyn yr wythnos hon roedd Mr Ernie Jones, 89 mlwydd oed, sydd wedi bod yn derbyn gofal ar Ward Cemlyn yn Ysbyty Cefni, am y pedair wythnos ddiwethaf. 

Canmolodd Ernie, y gwas sifil wedi ymddeol, o Langefni, y staff am wneud ei arhosiad ysbyty deimlo’n ‘normal’, er nad oedd ei deulu’n gallu ymweld oherwydd cyfyngiadau COVID-19.

Mae staff Ward Cemlyn yn darparu gofal i bobl â dementia o bob rhan o Ogledd Cymru na ellir bodloni eu hanghenion mewn cartref preswyl neu gartref gofal. Mae gan nifer o'r cleifion hyn anghenion cymhleth ac mae gofyn am asesiad ac ymyriadau arbenigol dros nifer o wythnosau neu fisoedd.

Dywedodd Cara Jowitt, Rheolwr y Ward, bod cyrhaeddiad y brechlyn yn cynrychioli cyfnod llawen ar ôl beth sydd wedi bod y cyfnod anoddaf yn ei gyrfa.

Dywedodd: "Oherwydd nad yw ein cleifion yn gallu cadw at y mesurau pellhau cymdeithasol a'u bod yn ei gweld hi'n anodd gwisgo masgiau, gall fod yn heriol iawn i'w cadw'n ddiogel.

"Mae'n rhyddhad enfawr bod ein cleifion sydd dros 80 mlwydd oed wedi derbyn y brechlyn bellach.  Rydym wedi cael COVID-19 ar y ward o'r blaen ac rydym yn gwybod pa mor ddinistriol y gall fod.  Mae pob un ohonom wedi cael yr ofn iddo ddod yn ôl a dyma gyfnod anoddaf fy ngyrfa.

"Mae ceisio darparu gofal i rywun â dementia a COVID-19 mor anodd oherwydd nid ydynt yn ymgysylltu gyda thriniaeth ac nid ydynt yn deall pam ein bod yn ceisio rhoi masg ocsigen ar eu hwynebau.  Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn ac mae brechu ein cleifion sydd dros 80 mlwydd oed yn rhoi gobaith bod y diwedd ar ddod.

"Rwy'n falch iawn o bob aelod o'n staff.  Maent wedi mynd y filltir ychwanegol, yn gweithio oriau ychwanegol a dod at ei gilydd fel tîm.  Mae hon yn garreg filltir anferth i ni gyd ac mae cynnwrf gwirioneddol wedi bod ar y ward yr wythnos hon."

I Feddyg Iau ar Ward Cemlyn, Dr Gathoni Kamau, mae cyrhaeddiad y brechlyn yn cynrychioli gobaith, wyth mis ar ôl i'r pandemig ddechrau.

Dywedodd: "Mae'r brechlyn hwn yn rhoi gobaith i ni fod diwedd hyn i gyd ar ddod.  Rydym wedi bod yn ofnus iawn dros ein cleifion oherwydd mai'r grŵp hwn yw'r un sydd fwyaf agored i niwed.  Mae hyn yn rhoi gobaith i ni ac mae mor dda bod gwyddoniaeth yn ennill."

Mae pobl y tu allan i leoliadau ysbyty yn cael eu gwahodd i ganolfannau brechu a meddygfeydd i gael eu brechlyn yn nhrefn y grwpiau blaenoriaeth a ddynodwyd gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio. Dylai’r rhai dros 80 oed nad ydynt wedi clywed unrhyw beth eto dderbyn gwahoddiad yn y dyddiau nesaf. Nod BIPBC yw bod pawb dros 80 oed yn cael eu dos cyntaf erbyn diwedd wythnos nesaf.

I ddod o hyd i fwy o wybodaeth am gyflwyno brechlyn COVID-19 yng Ngogledd Cymru, ewch i wefan BIPBC: https://bipbc.gig.cymru/covid-19/covid-19/