Codwyd dros £1,500 trwy ymdrechion codi arian i brynu offer ar gyfer ward lawfeddygol yn Ysbyty Gwynedd.
Yn ddiweddar cynhaliwyd noson bingo i godi arian yng Nghlwb Cymdeithasol Crosville ym Mangor a drefnwyd gan y tîm o Ward Tegid a gafodd lawer o gefnogaeth gan fusnesau lleol.
Rhoddwyd hanner cant o wobrau tuag at godi arian i brynu peiriant profi Electrocardiogram (ECG) ar gyfer y ward.
Mae ECG yn brawf defnyddiol a syml sy'n cofnodi rhythm, cyfradd a gweithgarwch trydanol y galon. Gall helpu i ganfod problemau gyda churiad calon rhythm y galon.
Dywedodd Victoria Seddon, Rheolwr Ward Tegid: "Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a ddaeth allan i gefnogi ein noson bingo ym Mangor.
"Mae busnesau lleol wedi bod yn hael iawn ac wedi rhoi gwobrau arbennig i'n helpu i godi arian.
"Cynigodd Glwb Cymdeithasol Crossville i ni gynnal y digwyddiad yno ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r holl aelodau am eu cymorth a'u cefnogaeth.
"Mae digwyddiadau fel hyn wedi dod â'n tîm ar Ward Tegid yn agosach at ei gilydd ac yn helpu i wella morâl.
"Rydym yn falch iawn gyda'r swm a godwyd a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi.
"Er bod gennym fynediad at beiriant ECG bob amser bydd cael un y mae modd ei gyrraedd yn hawdd ar ein ward ein hunain yn llawer gwell i ni a'n cleifion."
Mae'r tîm ar Ward Tegid wedi cael sganiwr y bledren newydd yn ddiweddar hefyd yn dilyn ymdrechion codi arian Leanne Baxter, sy’n Nyrs, a Chris Hoult, sy’n Ymarferydd Cynorthwyol, a gododd dros £4,000 i brynu'r offer drwy ymgymryd â her 10 milltir Ras yr Wyddfa.