Mae staff ar uned y newydd-anedig yn Ysbyty Glan Clwyd wedi ennill cystadleuaeth ryngwladol yn annog rhieni i gael cyswllt croen-wrth-groen gyda’u babanod.
Daeth y tîm yn gyntaf allan o 137 o unedau'r newydd-anedig a oedd yn cymryd rhan mewn her i annog teuluoedd i ddefnyddio technegau Gofal Cangarŵ.
Mae’r cysyniad yn golygu bod teuluoedd yn cofleidio eu babanod, sy’n darparu nifer o fanteision iechyd.
Cefnogodd y staff y cleifion i swatio gyda’u babanod dros gyfnod o bythefnos er mwyn cwblhau’r her, a osodwyd gan “Sunnybrook Health Sciences Centre” yn Toronto.
Ar gyfartaledd, cofleidiwyd pob babi ar yr uned am fwy na 7 awr y diwrnod yn ystod y gystadleuaeth, a gynhaliwyd rhwng 1 Mai a 14 Mai.
Dywedodd Angela Hannah, Uwch Brif Nyrs ar yr uned: “Rydym yn annog rhieni i gofleidio eu babanod beth bynnag, ond canolbwyntiwyd yn fawr ar hyn drwy gydol y gystadleuaeth. Rydym yn falch ein bod yn gyntaf yn y byd.
“Ar un diwrnod yn unig, cafwyd dros 100 awr o gyswllt croen-wrth-groen.
“Mae cael ei gofleidio gan riant y peth gorau i fabi ar ôl bod yn groth, ble rydym yn gwybod mae’r rhan fwyaf o ddatblygiad y newydd-anedig yn digwydd.
“Mae’n rhoi ychydig o normalrwydd i fabi sâl mewn amgylchedd dieithr ac anghyfarwydd. Mae gallu efelychu’r cysylltiad rhwng rhiant a phlentyn y ffordd gorau o’u helpu i wella.
“Rydym hefyd yn gwybod eich bod yn teimlo lefelau is o cortisol a lefelau uwch o ocsitocin, sy’n helpu’r ymennydd weithredu’n well, ac mae astudiaethau’n dangos ei fod yn lleihau pryder i’r rhiant a’r babi.”
“Mae cyswllt croen-wrth-groen yn hybu cwlwm rhwng oedolion a’u babanod, a gall y gweithgaredd lleihau straen hefyd helpu i atal iselder ar ôl y geni.”
Dim ond babanod a oedd yn gymwys ar gyfer cyswllt croen-wrth-groen a gymerodd ran yn y gystadleuaeth.
Dywedodd Amanda Shaw, o Wrecsam, ble cafodd ei babi, Theo ofal ar yr uned yn ystod y gystadleuaeth: “Mae wedi datblygu’n dda, mae’r “Kangaroo-a-thon” wedi bod o fantais fawr.
“Rwyf wedi sylwi bod ei lefelau ocsigen a’i anadlu yn well pan fyddwn yn gafael ynddo, ac mae’n dueddol o wneud yn well.
“Mae hefyd yn dawel, yn llawer hapusach. Mae’n wych i ni hefyd, ac yn bwysig iawn fy mod yn gallu gafael ynddo.
“Cefais fabi cynamserol o’r blaen ac nid oeddwn yn gallu gafael ynddo, mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth fy mod yn gallu dod i adnabod ef a’i giwiau ac arwyddion.”