Mae tîm o gynorthwywyr gofal iechyd a nyrsys ardal wedi'u cydnabod am eu hymrwymiad i ddysgu sgiliau maeth newydd i fod yn fuddiol i'w cleifion sy'n gadael yr ysbyty.
Mae'r staff oll wedi cwblhau eu hyfforddiant Lefel 2 mewn Sgiliau Bwyd a Maeth yn y Gymuned ac erbyn hyn, gallant rannu negeseuon am fwyta'n iach gyda chleifion hŷn a bregus pan fyddant yn gadael yr ysbyty.
Pwrpas yr hyfforddiant oedd cefnogi prosiect peilot a drefnwyd gan Fetron Rhona Jones o Ysbyty Alltwen.
Dywedodd Rhona Jones, Metron Ysbyty Alltwen, fod y sgiliau newydd a enillodd y tîm yn helpu i atal cleifion rhag dychwelyd i'r ysbyty.
Dywedodd: “Roeddem ni'n hynod falch o gymryd rhan yn y prosiect peilot hwn sy'n cynnwys dod â gofal yn nes at adref.
“Pan fydd ein cleifion yn yr ysbyty, maen nhw'n dod i adnabod ein staff yn dda iawn felly pan fyddan nhw'n mynd allan i'w gweld gartref, maen nhw'n gyfarwydd â phwy sy'n ymweld â nhw.
“Gallan nhw gynnig cyngor ar faeth a'u helpu i goginio eu bwyd a hyd yn oed helpu gyda'u siopa.
“Mae hyn yn helpu'r rheiny yn ein cymuned, a allai fod yn fregus ac a allai fod angen ychydig bach mwy o gymorth, i aros yn annibynnol ac mae hefyd yn eu hatal rhag gorfod dychwelyd i'r ysbyty.
“Mae hefyd yn rhoi sicrwydd i ni fod ein cleifion yn gofalu amdanyn nhw eu hunain pan fyddant yn mynd adref a'u bod yn bwyta'n iach.
“Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i Bev ac Anwen am eu cymorth a hefyd am ddewis Ysbyty Alltwen fel y safle cyntaf yn y Bwrdd Iechyd i gymryd rhan yn y prosiect."
Cafodd yr hyfforddiant achrededig ei roi gan Beverly Fisher, Deietegydd Iechyd y Cyhoedd ac Anwen Weightman, Ymarferydd Cynorthwyol Deietegol.
Bu Beverly yn hynod falch o’r tîm yn Ysbyty Alltwen ac roedd eu hymrwymiad i’r cwrs wedi gwneud argraff dda arni.
Dywedodd: “Roedd yn wych eu gweld yn magu hyder trwy'r cwrs a yn mynd â'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu i gartrefi eu cyn gleifion er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cymorth ychwanegol hwnnw.
“Hoffwn i longyfarch i bob un ohonynt am yr hyn maen nhw wedi'i gyflawni."