Dywedodd Gill Harris, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
"Oherwydd pwysau cynyddol yn ein hysbytai a chynnydd yn nifer yr achosion o COVID-19 yn ein cymunedau ar draws Gogledd Cymru, yn enwedig yn ardaloedd y Canol a'r Dwyain, rydym yn rhoi cynlluniau ar waith i ddefnyddio rhywfaint o gapasiti ychwanegol yn ein Hysbyty Enfys yng Nglannau Dyfrdwy.
"Yn y lle cyntaf, bydd hyd at 30 o welyau yn yr ysbyty ar agor i dderbyn y cleifion cyntaf o ddechrau'r wythnos nesaf. Caiff y safle ei ddefnyddio i ofalu am gleifion sy'n gwella yn sgil COVID-19 sydd angen gofal parhaus.
"Bydd y capasiti ychwanegol hwn yn ategu ein Cynllun Gwytnwch ar gyfer y Gaeaf er mwyn sicrhau bod modd i ni barhau i ddarparu mynediad prydlon at ofal a chymorth ar gyfer ein cymunedau yng Ngogledd Cymru pan fo'i angen. Ein huchelgais yw sicrhau bod cleifion mor agos ag adref â phosibl.
"Ar ran y Bwrdd, hoffwn ddiolch i'r holl bartneriaid sydd wedi gweithio gyda ni am eu cefnogaeth o ran sicrhau'r capasiti ychwanegol hwn mewn cyfleuster ardderchog.
"Hoffwn hefyd fynegi ein diolchgarwch i gydweithwyr sydd wedi gweithio o fore gwyn tan nos i sicrhau bod y safle'n barod i dderbyn cleifion ac i'r rheiny fydd yn gweithio yno i gynnig gofal i'n cleifion."
Mae gwaith manwl wedi'i wneud er mwyn canfod y cleifion mwyaf priodol i dderbyn gofal yn yr ysbyty, yn ogystal â'r staff sydd eu hangen i gynnal gwasanaethau ar y safle. Yn y lle cyntaf, bydd hyd at 30 o welyau yn yr ysbyty ar agor i dderbyn y cleifion cyntaf o'r wythnos nesaf.
O'r tri ysbyty Enfys sydd wedi'u sefydlu, mae Glannau Dyfrdwy wedi'i ddewis i agor am nifer o resymau. Mae baich haint COVID-19 ar ei uchaf yn yr ardal hon yng Ngogledd Cymru, mae economïau gwell o ran graddfa yn ymwneud â staffio'r ysbyty ac yng Nglannau Dyfrdwy, mae mantais ocsigen mewn pibellau, yn hytrach na dibynnu ar silindrau ocsigen.