02.12.21
Mae meddyg ymgynghorol, y cyntaf yn y DU i ddefnyddio teclyn deallusrwydd artiffisial (Al) i wneud diagnosis o ganser y brostad, wedi galw ei hun a’i gydweithwyr yn “arloeswyr”.
Mae Dr Muhammad Aslam, patholegydd ymgynghorol a chyfarwyddwr clinigol gwasanaethau cymorth clinigol a reolir yng Ngogledd Cymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar flaen y gad o ran gwella ansawdd a chyflymder diagnosis o ganser y brostad.
Mae ef a phedwar cydweithiwr sy'n feddygon ymgynghorol wedi bod yn defnyddio platfform Galen gan gwmni dadansoddeg feddygol Ibex i wirio sleidiau digidol a gymerwyd o fiopsïau ar gleifion yr amheuir bod canser y brostad arnynt.
Dyma'r cymhwysiad deallusrwydd artiffisial cyntaf a gymeradwywyd ar gyfer defnydd clinigol mewn histopatholeg yn y DU.
Dywedodd Dr Aslam nad yw 105 sampl a brofwyd gan yr offeryn AI, y mae’n eu disgrifio fel “ail feddyg ymgynghorol”, wedi dychwelyd unrhyw wallau wrth wneud diagnosis.
Dywedodd: “Bydd y broses hon o wirio sleidiau fel arfer yn cymryd 50-60 munud ond gallaf weld y canserau a'u mesur mewn ychydig funudau yn unig.
“Fodd bynnag, ansawdd y gwaith sy'n bwysig i mi, nid yr amser a arbedir.
"Mae cymhwysiad Galen fel cael meddyg ymgynghorol arall yn gwneud yr holl waith a dod â'r canlyniadau i mi.
“Pe bawn i yn glaf, byddwn i eisiau adrodd dwbl - dau feddyg ymgynghorol yn edrych ar fy sleid - ond mae prinder o feddygon ymgynghorol yn genedlaethol, felly nid oes gennym yr adnoddau i wneud hyn.
“Gyda'r system hon mae gennym adroddiadau dwbl felly mae'n llawer gwell i'n cleifion, a dyna'r peth pwysicaf.
“Mae'n hawdd iawn methu'r canserau hyn, wrth sgrinio meinweoedd bychan mewn chwyddiad manylach, ac weithiau mae canser yn rhy fach i chwilio amdano.
“Llwyddiant y dechnoleg yw'r ffaith nad yw pobl yn gorfod ailadrodd rhagor o fiopsïau poenus oherwydd mae'r platfform mor gywir.
"Ni yw'r tîm cyntaf a'r bwrdd iechyd cyntaf i ddefnyddio'r dechnoleg hon ar gyfer diagnosis clinigol yn y DU - ni yw'r arloeswyr."
Mae sleidiau sy'n cynnwys samplau o fiopsïau yn cael eu llwytho i mewn i beiriant sganio digidol ac mae Galen yn dadansoddi'r samplau ar gyfer canser posib, yna'n eu graddio gan ddefnyddio system goleuadau traffig.
Mae tebygolrwydd uchel o ganser yn sbarduno marciwr coch; marciwr ambr yn achos y rhai sydd angen eu harchwilio a marciwr gwyrdd yn achos samplau anfalaen.
Mae'r ap hefyd yn nodi'r raddfa ar gyfer y canserau a goresgyniad y nerfau a marcwyr prognostig eraill ac yn eu marcio i'w cyflwyno i feddyg ymgynghorol dynol a all raddio difrifoldeb y clefyd.
Caiff yr holl samplau eu marcio fel POI (pwynt diddordeb) gan y Galen a'u cyflwyno i'r patholegydd ymgynghorol.
Aeth y labordy patholeg cellog ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ddigidol chwe blynedd yn ôl, ynghyd â labordai eraill yng Nghymru, ar broses o ddigideiddio cenedlaethol.
Dywedodd Dr Aslam fod y datblygiad wedi'i wneud gyda datblygiadau maes o law mewn technoleg AI mewn golwg.
Dywedodd: “Fe ddylen ni ei alw’n wybodaeth â chymorth, gan ei fod yn ein cynorthwyo i gael y gorau i’n cleifion, cyn gynted â phosibl.
“Mae gen i fwy o wybodaeth na'r cymhwysiad a byddwn yn dal i edrych ar y biopsïau hyn a dod o hyd i'r diagnosis gorau. Nid yw hyn yn lleihau'r angen am feddygon ymgynghorol; mae'n ein helpu ni i dargedu'r cleifion mwyaf anghenus, yn gyflym ac yn gywir.
“Mae pawb ym maes iechyd yn credu bod y batholeg o safon aur mewn diagnosis canser. A dweud y gwir, bodau dynol ydyn ni felly alla i ddim derbyn ein bod ni'n 100% yn gywir bob tro.
"Fe wnaiff y dechnoleg AI hon ganiatáu i ni leihau nifer y camgymeriadau."
Mae arsylwadau Dr Aslam hefyd yn helpu i lywio'r hyn a ddysgir gan Galen, gan ei wneud yn fwy cywir wrth i amser fynd yn ei flaen.
Gyda mwy na 2,500 o bobl yn cael diagnosis o ganser y brostad yng Nghymru bob blwyddyn a thua 600 o farwolaethau o'r cyflwr, mae'n gobeithio y bydd Galen yn cael ei fabwysiadu'n genedlaethol.
Datgelodd na ddewiswyd unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru ar gyfer cylch cyllido gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU i dreialu'r dechnoleg.
Felly ymgeisiodd yn llwyddiannus i Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) Llywodraeth Cymru i gael cyllid.
Roedd ei ddyfalbarhad yn golygu y gallai gychwyn defnyddio'r dechnoleg yn gyflymach - ac mewn lleoliad clinigol.
Dywedodd Dr Aslam, sydd hefyd yn gadeirydd Grŵp Cynghori Arbenigol Sefydlog ar Histopatholeg, fod prosiect hefyd yn cael ei ddatblygu i edrych ar ganserau'r fron.
Gallai hyn helpu i hysbysu meddygon ymgynghorol am y cyffuriau gorau i'w defnyddio i fynd i'r afael â'r amrywiaeth o ganserau'r fron, sy'n bygwth iechyd menywod yn bennaf.
Mae hefyd yn gobeithio un diwrnod i allu defnyddio technoleg debyg i asesu a thargedu triniaethau priodol ar gyfer canserau'r colon a'r rhefr.