05.11.2021
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn recriwtio staff brechu ychwanegol i helpu i gael y pigiadau brechu i freichiau preswylwyr Gogledd Cymru mor sydyn â phosibl y gaeaf hwn.
Mae swyddi parhaol a dros dro ar gael ar gyfer brechwyr a chynorthwywyr brechu, gydag oriau llawn amser, rhan amser, a banc (pan fydd angen) ar gael mewn clinigau ar draws Gogledd Cymru.
Mae brechwyr cofrestredig yn cael eu recriwtio i rolau Band 5 (£25,654 - £31,533), tra mae cynorthwywyr brechu a gweinyddwyr yn cael eu recriwtio i rolau Band 3 (£20,329 - £21,776).
Mae pobl o gefndiroedd anghlinigol yn cael eu hannog i ymgeisio – gan y bydd hyfforddiant cynhwysfawr yn cael ei ddarparu.
Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i ymuno â digwyddiadau e-recriwtio bwrdd iechyd, a gynhelir 15 Tachwedd dros Microsoft Teams o 10am -12pm a 1pm-3pm.
Bydd y digwyddiadau rhithwir yn rhoi cyfle i chi siarad â’r staff sy’n gysylltiedig â’r rhaglen a dod i wybod am natur wobrwyol gweithio yng nghanolfannau brechu’r bwrdd iechyd.
Yn dilyn y digwyddiadau, bydd y rhai sy’n mynychu yn cael eu gwahodd i ymgeisio ar-lein, gyda chyfweliadau yn cael eu cynnal yr wythnos ganlynol. Bydd proses recriwtio carlam yn sicrhau y gall staff newydd gael eu cyflwyno’n gyflym.
Anogir y rhai sydd â diddordeb dod i wybod mwy, ond sydd ddim yn gallu mynychu’r sesiwn rithwir, i gofrestru ar lein gan ddefnyddio’r un ddolen - fel y gall manylion ar sut i ymgeisio gael eu he-bostio atynt.
Meddai Graham Rustom, Rheolwr Brechiadau COVID-19 BIPBC: “Rydym eisiau annog gymaint o bobl â phosibl i ymuno â’n timau felly rydym yn cynnig swyddi parhaol a dros dro, gydag oriau llawn amser, rhan amser ac oriau banc ar gael.
"Mae’r rhain yn rolau hynod wobrwyol lle byddwch yn cael cyfle i wneud gwahaniaeth ar gyfer pobl yn eich cymuned.
“Mae ein timau brechu yn chwarae rôl hanfodol i gadw Cymru’n ddiogel rhag COVID-19. Rydym yn brechu'r un mor gyflym â byrddau iechyd eraill, ac yn unol â’n cyfran ni o’r boblogaeth.
“Po fwyaf o staff ychwanegol y gallwn recriwtio, y cyflymaf y gallwn gael y pigiadau atgyfnerthu i freichiau pobl yn ein grwpiau blaenoriaeth.
Mae Gill Knight wedi gweithio fel brechwr COVID-19 ers mis Rhagfyr 2020. Meddai: “Mae gweithio ar y rhaglen frechu COVID-19 yn wobrwyol iawn ac rydym yn falch iawn o’r rôl yr ydym ni wedi’i chwarae i droi’r llanw ar y pandemig.
“Dyma’r rhaglen frechu fwyaf yn hanes y GIG ac mae wedi cymryd ymdrech tîm fawr i frechu gymaint o bobl, mor gyflym.
“Os ydych yn chwilio am sialens newydd, gweithio mewn rôl wobrwyol a gwerth chweil, yna byddwn yn argymell ymuno â’n timau brechu.”
Ers dechrau’r rhaglen atgyfnerthu COVID-19 yng nghanol Medi, mae ein timau brechu wedi rhoi dros 110,000 o’r pigiad atgyfnerthu, yn ogystal â bron i 25,000 o ddosys cyntaf, ail a thrydydd yn ystod yr un cyfnod.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnig y brechlyn atgyfnerthu i 90 y cant o’r rhai sy’n gymwys erbyn canol Rhagfyr. Hyd yma mae bron i draean o’r rhai sy’n gymwys wedi derbyn eu pigiad atgyfnerthu.
I gadw lle ar y digwyddiad e-recriwtio, cliciwch ar y ddolen ganlynol a llenwch eich manylion: Diwrnod E-Recriwtio Brechiadau.
Bydd nodyn atgoffa a dolen i gael mynediad at y digwyddiad ar Microsoft Teams yn cael eu hanfon yn agosach at yr amser.
Am fwy o wybodaeth am Raglen Brechu COVID-19 BIPBC, ewch i: Brechlyn COVID-19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)