12/11/2021
Penderfynodd cyn-newyddiadurwr ddod yn “allgarwr hunanol” o fewn y GIG wrth wella o dair llawdriniaeth i dynnu tiwmor ar yr ymennydd.
Roedd Richard Irvine yn is-olygydd profiadol gyda'r Liverpool Echo pan dderbyniodd y newyddion yn 2012 bod ganddo dwf anfalaen.
Roedd yn credu ei fod yn “well mynd i'r afael ag ef” pan oedd yn effeithio ar ei hormonau, yn cynyddu ei bwysau, ac yn bygwth ei olwg.
Cafodd Richard driniaeth yng Nghanolfan Walton, Lerpwl, a chafodd lawdriniaethau llwyddiannus yn 2012 cyn yr hyn a ddisgrifiodd fel cyfnod adfer “hir a chaled”, a oedd yn cynnwys pyliau o radiotherapi.
Wrth wella, gwelodd o lygad y ffynnon ymrwymiad rhyfeddol staff gofal iechyd a phenderfynodd ar newid gyrfa fel y gallai helpu eraill hefyd.
Mae dieteteg yn ymwneud â diet a'i effeithiau ar iechyd a dewisodd y ddisgyblaeth oherwydd sut roedd y tiwmor wedi effeithio arno.
Dywedodd Richard, 46: “Roedd yn iawn am fod y tiwmor yn anfalaen ond fe wnaeth lanast o fy hormonau ac roedd yn bygwth fy ngolwg, felly roeddwn i'n meddwl y byddai'n well i mi fynd i'r afael ag ef.
"Magais lawer o bwysau. Rwy'n credu iddo agor fy meddwl a gwneud i mi ddeall nad yw pwysau yn ymwneud â chalorïau i mewn a chalorïau allan.
"Wrth fynd drwy’r profiad a gweld y GIG yn agos, roedd yn fy niddori a meddyliais ‘am swydd dda’.
“Roedd fy adferiad yn anodd ond rhoddodd amser i mi feddwl am fywyd, yr hyn yr oeddwn yn ei wneud a’r dyfodol.
"Felly roedd gen i ddiddordeb mawr mewn rheoli pwysau oherwydd fy sefyllfa fy hun. Meddyliais, os gallwn i gael fy nhalu i ymchwilio hyn, byddai'n ddelfrydol.
"Fe wnaeth i mi feddwl fod helpu pobl yn rhan werth chweil o'r swydd, felly mi wnes i gynllunio'r cyfan a fy llwybr i gyrraedd yno."
Ar ôl gweithio yn y Chester Chronicle ers 1998, roedd Richard wedi symud i'r Liverpool Echo gyda rôl gyda llawer o bwysau fel is-olygydd yn 2004.
Roedd yn anodd iawn gadael y papur newydd ar ôl 19 mlynedd gyda'r un cwmni, ond roedd yn rhywbeth y dywedodd ei fod yn gwybod bod yn rhaid iddo ei wneud.
Cefnogodd ei benaethiaid ef trwy ei gwrs Mynediad at Addysg Uwch yn 2016, trwy ganiatáu iddo weithio sifftiau a oedd yn cyd-fynd â'i astudiaethau. Pasiodd y cwrs - a dechreuodd radd mewn maeth a dieteteg ym Mhrifysgol Caer yn 2017.
Ychydig cyn dechrau'r cwrs cafodd gynnig diswyddiad gwirfoddol o'i swydd ac yna rhoddodd ei bartner Victoria enedigaeth i efeilliaid, Thomas ac Emma.
Gallai hyn fod wedi bod yn ormod o newid i lawer o bobl ond dim ond cadarnhau penderfyniad Richard i fod yn llwyddiannus a wnaeth.
Dywedodd: "Byddwn i'n cynghori pobl i gymryd y naid. Os ydych chi eisiau rhywbeth byddwch chi'n gwneud iddo weithio. Fe wnes i drin fy astudiaethau fel swydd 9-5."
Ar ôl ennill gradd 2:2 yn y gyfraith eisoes pan oedd yn iau, enillodd radd dosbarth cyntaf yn ei bwnc newydd ond roedd yn nodweddiadol ddiymhongar am y cyflawniad.
"Roeddwn wedi fy synnu ac yn falch iawn o gael gradd dosbarth cyntaf ond cyflawnais hynny oherwydd bod gen i rwymedigaethau,” meddai. "Ni allwn gymryd unrhyw siawns - roedd yn rhaid i mi geisio fy ngorau glas i gael swydd."
Ar ôl mynd ar brofiad gwaith yn ceisio cael ei gymhwyster yn y gwaith i ddod yn ddietegydd cymwys, daeth y cyfnod clo cyn y gallai orffen.
Oherwydd bod ganddo asthma, bu’n rhaid i’w oruchwylwyr yn Ysbyty Arrowe Park, Cilgwri, ddilyn y canllawiau ar y pryd ac ni chaniatawyd i Richard i barhau â’i brofiad gwaith.
Fodd bynnag, daliodd i chwilio am gyfleoedd ac yn y diwedd daeth o hyd i un gydag adran ddieteteg BIP Betsi Cadwaladr y llynedd.
Caniataodd iddo orffen ei leoliad wrth gael ei dalu a chynigiwyd rôl iddo ar ei ddiwedd.
"Roeddent mor hyfryd a chroesawgar," datgelodd. “O fewn blwyddyn rydw i wedi datblygu yn fy swydd yn yr adran rheoli pwysau.
“Mae helpu pobl i gydnabod y gwahaniaeth rhwng mathau o fwyd a newid ymddygiad yn werth chweil.
"Mae'n fath o allgariaeth hunanol. Rydych yn gwneud gwaith da, ac yn teimlo'n dda oherwydd hynny."
Swyddi Gwag - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)