Mae rhieni a phlant yn cael eu rhybuddio am beryglon jôc cyfryngau cymdeithasol sy'n arwain at anafiadau difrifol i blant a phobl ifanc.
Fel rhan o'r Her "Skullbreaker" neu "Jump-Trip", mae dau ffrind yn gofyn i un gymryd rhan yn annisgwyl ac i neidio yn yr awyr, a bydd ei goesau yn cael ei sgubo oddi tano, gan beri iddo syrthio ar ei gefn.
Mae'r codymau yn cael eu ffilmio ac yn cael eu llwytho ar TikTok, Instagram, Twitter a safleoedd cyfryngau cymdeithasol eraill.
Yr wythnos hon, llwyddodd bachgen 13 oed o Landudno i osgoi anaf difrifol ar ôl glanio ar ei wddf wrth gymryd rhan mewn fideo.
Cafodd Lewis McMillan, disgybl yn Ysgol John Bright, ei dderbyn i Ysbyty Glan Clwyd ar ôl ceisio ail wneud fideo o'r her yr oedd wedi'i weld gyda'i ffrindiau ar TikTok.
Dywedodd Zoe, mam Lewis: "Bydd hogiau bob amser yn ddrygionus, ond mae wedi bod yn lwcus iawn.
"Un peth yw gweld y mathau hyn o fideos ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae angen i blant fod yn ofalus, ac ni ddylen nhw fod yn eu copïo.
"Rwy'n meddwl ei fod wedi bod yn lwcus iawn, gallai fod wedi torri ei wddf. Roeddent yn meddwl y byddai'n glanio'n esmwyth, ond fe laniodd ar ei wddf ac fe aeth ei draed y tu ôl i'w ben.
"Ffoniodd ei ffrindiau yr ambiwlans ar unwaith ac fe ddaeth ag ef i'r ysbyty i'r meddygon edrych arno, ac fe arhosodd i mewn fel rhagofal.
"Yn ffodus, mae'n iawn, ac mae'r staff wedi bod yn wych gydag ef, ond fe allai fod wedi bod lawer gwaeth.”
Dywedodd Markus Hesseling, Cyfarwyddwr Clinigol Paediatreg: "Efallai ei fod yn ymddangos fel hwyl diniwed, ond mae posibilrwydd y gall pobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y fideos hyn gael anafiadau difrifol. Yr wythnos hon, rydym wedi gweld ein derbyniad cyntaf gydag anaf difrifol i'r cefn."
“Oherwydd y ffordd nad yw’r unigolyn sy’n cael ei dwyllo i gymryd rhan yn y fideos yn gallu torri ei godwm, mae’n syrthio'n uniongyrchol ar ei gefn, ei wddf neu ei goesau.
“Ymddengys bod y duedd wedi bod yn brysur ar gyfryngau cymdeithasol am rhyw wythnos, ac mae'n ymddangos bod llawer o'r cynnwys sy'n cael ei rannu yn awr gan rieni, gwefannau newyddion ac awdurdodau eraill yn rhybuddio am yr her.
"Fodd bynnag, rydym yn parhau i weld achosion o blant yn cael eu hanafu o ganlyniad i'r her, waeth a yw'r fideo wedi'i rannu ar gyfryngau cymdeithasol ai peidio."
"Y peth cyfrifol i’w wneud yw sicrhau bod pobl ifanc yn gwybod pa mor beryglus yw'r her. Fy argymhelliad fyddai i rieni siarad â'u plant am hyn, a sicrhau eu bod yn gwybod am y duedd ac iddynt beidio â chael eu twyllo i gymryd rhan."