Mae rhoddion caredig a gwaith codi arian wedi gwella cyfleusterau i gleifion sy'n defnyddio'r ystafell fewnwythiennol yn Ysbyty Llandudno.
Mae staff ar yr uned wedi defnyddio rhoddion gan elusennau, busnesau lleol a chleifion i ail-baentio’r ystafell ac i brynu eitemau adloniant i ddifyrru cleifion tra byddant yn cael therapi.
Mae Uned Llandudno yn cynnig mwy na 300 o driniaethau therapi bob mis, gan helpu pobl o Wynedd, Conwy a Sir Ddinbych i osgoi teithiau i Ysbyty Glan Clwyd neu'n bellach i ffwrdd ar gyfer therapi mewnwythiennol.
Mae cleifion yn defnyddio'r ystafell fewnwythiennol ar gyfer cyflyrau osteoporosis, parlys ymledol, crefyd Crohn a cholitis, a gofal cyn cemotherapi neu ar ei ôl. Yn aml, mae angen triniaethau lluosog bob wythnos, ac mae'n cymryd cymaint ag wyth awr i gwblhau rhai triniaethau.
Gan fod cleifion yn treulio cyfnodau hir yn derbyn therapi'n aml, gwnaeth staff gysylltu â busnesau ac elusennau lleol er mwyn cael cymorth i uwchraddio'r cyfleusterau a sicrhau eu bod yn cyrraedd safonau deall dementia.
Mae'r gwelliannau'n cyfrannu at waith ehangach yr ysbyty i ennill Statws Gweithio tuag at Statws Deall Dementia gan Gymdeithas Clefyd Alzheimer. Y llynedd, Ysbyty Llandudno fu'r cyntaf yng Ngogledd Cymru i dderbyn y wobr, sy'n cydnabod sefydliadau sy'n codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr sy'n cyfyngu ar fywyd.
Gwnaeth y tîm roi arian hefyd i brynu darganfyddwr gwythiennau is-goch, sy'n helpu staff i ofalu am gleifion pan fo'n anodd gosod caniwla.
Dywedodd Lottie Wilson, Prif Nyrs yn yr Ystafell Fewnwythiennol: “Mae mor hawdd diflasu pan fyddwch yn cael triniaeth hirfaith yma. Roeddem ni am wneud rhywbeth er mwyn gwneud treulio amser yma mor braf â phosibl.
“Gwnaeth ein gweithiwr cadw tŷ ysgrifennu at Ganolfan Addurno Jonnstone's yn Llandudno er mwyn gweld p'un a allent helpu i adnewyddu'r uned. Yn garedig iawn, mi wnaethant roi rholeri, brwsys paent a phaent er mwyn tacluso'r man lle rydym ni'n cynnig y triniaethau.
“Yn ddiweddarach, mi wnaethom ni weithio gyda'n Gweithwyr Cymorth Dementia am eu cyngor er mwyn sicrhau ein bod yn ailaddurno i gyrraedd safonau deall dementia.
“Gwnaeth Chrohn's and Colitis UK roi £930 y gwnaethom ei ddefnyddio i brynu llechi a theledu newydd, yn ogystal â chadeiriau pantiog i'r staff nyrsio eu defnyddio, a fydd yn eu helpu i weithio'n fwy cyfforddus tra byddant yn gofalu am ein cleifion mewnwythiennol.
“Mae llawer o bobl yn dod â'u hadloniant eu hunain i mewn, ond nid yw rhai'n gwneud hynny, a thrwy gael teledu newydd mawr a'r Kindles fydd â chylchgronau, papurau newydd a theledu ar gais, gallant ddifyrru eu hunain a gwneud i'r amser fynd ychydig yn gynt.
“Rydym ni hefyd yn lwcus i fod wedi cael cymorth gwych gan un o'n cleifion hirdymor, a dderbyniodd roddion yn ei phriodas tuag at yr uned.
“Mae'r rhoddion wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'n staff a'r cleifion, ac rydym ni am ddiolch i bawb sydd wedi rhoi cymorth gwych i ni."