Mae grŵp o redwyr wedi cwblhau gweithgaredd codi arian heriol 24 awr i helpu teuluoedd sydd â phlant gwael ar draws Gogledd Cymru.
Llwyddodd y Black Cloak Runners, clwb rhedeg cymdeithasol o Fae Colwyn, i godi dros £3,000 at Cuddles, sy’n cefnogi Uned i’r Newydd-anedig Gogledd Cymru Ysbyty Glan Clwyd.
Bu i’r athletwyr amatur redeg 5 milltir bob pedair awr dros y cwrs 30 milltir i godi arian a fydd yn helpu i ddodrefnu ystafelloedd preswyl dros dro’r uned.
Mae’r ystafelloedd yn helpu teuluoedd sy’n byw’n bell o’r uned i aros yn agosach at eu plant tra byddant yn derbyn triniaeth.
Cymerodd dîm o 20 rhedwr ran yn yr her i roi rhywbeth yn ôl i’r uned a ofalodd am ddau o blant aelodau’r grŵp.
Cafodd George, mab Eryl Lloyd sy’n Swyddog yr Heddlu, ei eni ar ôl cyfnod cario o 27 wythnos yn 2014. Bu iddo dreulio tri mis yn derbyn gofal yn uned gofal arbennig yr ysbyty, ac mae’n awr yn hogyn 6 oed iach a hapus.
Ganwyd Martha, merch Max Harris, perchennog y Black Cloak Taproom ym Mae Colwyn lle mae’r clwb rhedeg wedi’i leoli, yn 26 wythnos oed ac yn pwyso 1 pwys a 6 owns. Mae’n awr yn 4 oed a newydd ddechrau mynychu’r ysgol yn llawn amser.
Dywedodd Aaron Haggas, sy’n aelod o’r grŵp ac yn gweithio i Heddlu Gogledd Cymru gydag Eryl: “Cuddles yw’r elusen enwebedig ar gyfer y clwb rhedeg a’r Black Cloak Taproom ym Mae Colwyn, lle mae gennym dedis wedi’u gwau i godi arian at Cuddles wrth y bar”.
“Rwy’n gweithio i’r Heddlu, a phan anwyd George, roedd yn gyfnod drwg iawn. Mae Eryl yn ddyn arbennig, rhywun positif iawn a fyddai’n gwneud unrhyw beth i unrhyw un. Ond roedd ei weld yn torri ei galon ac yn poeni am ei fab ifanc yn brofiad ofnadwy.
“Roedd dewis yr uned gofal arbennig i fabanod fel ein hachos lleol yn un syml. Rwy’n meddwl fod pawb yn adnabod rhywun sydd wedi elwa o’r gwaith meant yn ei wneud ar yr uned.
“Yn wreiddiol roeddem wedi bwriadu codi £500, ond rydym wedi cael cefnogaeth arbennig, ac rwy’n falch iawn o ba mor hael mae pawb wedi bod, yn enwedig yn awr pan mae hi’n anoddach oherwydd COVID.”
Cychwynnodd y grŵp am 8pm ar nos Wener, a chwblhau pum milltir bob pedair awr, gan gwblhau milltiroedd ola’r her 24 awr yn ddiweddarach.
Dywedodd Aaron: “Roedd yn heriol iawn. Ar y dechrau mae gennych yr holl adrenalin ac rydych yn teimlo’n wych, ond erbyn y bore a chanol y dydd, roedd yn llusgo go iawn.
“Rhedom lwybr drwy Fae Colwyn a Llandrillo-yn-rhos, ac roedd y pwyslais ar fod mor gyson â phosibl.
“Roedd yn ymdrech tîm ardderchog i’w gwblhau, gan godi arian at achos teilwng iawn.”
Dywedodd Angela Hannah, Uwch Nyrs Staff: “Mae hyn yn newyddion gwych i rieni sy’n aros gyda ni ar yr uned.
“Mewn nifer o achosion, bydd teuluoedd yn aros gyda ni am sawl wythnos ar y tro, felly mae’n bwysig iawn ein bod yn ceisio darparu amgylchedd mwy cartrefol a llai clinigol iddynt.
“Rydym yn ymdrechu i leihau’r pryder a’r boen i rieni sy’n dod o gael eu gwahanu, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn.”