Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen gyflogi newydd yn helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl ddarganfod gwaith ac aros mewn gwaith

Rhaglen gyflogi newydd yn helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl ddarganfod gwaith ac aros mewn gwaith

Mae pobl sy'n cael trafferth cadw swydd oherwydd problemau iechyd meddwl yn cael eu hannog i fanteisio ar wasanaeth cefnogi newydd, y cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Nod MI FEDRAF Weithio yw helpu pobl yng Ngogledd Cymru ddod o hyd i waith a'i gadw er mwyn cefnogi eu hadferiad ar ôl problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol.

Mae'r peilot 12 mis yn cael ei arwain gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn partneriaeth â'r elusen gwasanaethau cefnogi personol, CAIS a Strategaeth Dinas y Rhyl, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Dyma'r gwasanaeth newydd diweddaraf i gael ei lansio drwy ymgyrch MI FEDRAF y Bwrdd Iechyd, sydd â'r nod o ddarparu cefnogaeth gynharach a grymuso pobl i gymryd rheolaeth o'u hiechyd meddwl.

Mae ymchwil wedi dangos bod dros draean y bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol yn ddi-waith, ac mae corff cynyddol o dystiolaeth sy'n cysylltu gwaith â gwell iechyd meddwl, lles ac ansawdd bywyd.

Mae MI FEDRAF Weithio yn seiliedig ar egwyddorion y rhaglen gyflogi Lleoliad a Chefnogaeth Unigol (IPS), a ddefnyddir ar hyd a lled y byd ac a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal (NICE) fel y model arweiniol i helpu pobl ag iechyd meddwl gwael i fynd i waith.

Dyma'r tro cyntaf i'r ymagwedd hon gael ei mabwysiadu ar raddfa fawr yng Nghymru.

Rhaglen gyflogi newydd yn helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl ddarganfod gwaith ac aros mewn gwaith

Bydd gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn gweithio'n agos gyda rhwydwaith o Arbenigwyr Cyflogaeth MI FEDRAF i sicrhau bod cyflogaeth yn rhan ganolog o adferiad pobl o broblemau iechyd meddwl.

Bydd y rhaglen yn darparu cefnogaeth barhaus ddwys i alluogi pobl ddod i hyd i waith ac aros ynddo, a darparu cefnogaeth i gyflogwyr i helpu pobl gadw eu swyddi ar adegau anodd.

Dywedodd Llinos Edwards, Rheolwr Rhaglen Gwella Gwasanaeth yn BIPBC: "Gwyddom fod llawer o bobl â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol eisiau gweithio, ond eu bod angen mwy o gefnogaeth i wneud hynny. Mae arnom eisiau annog unrhyw un sy'n cael trafferth i gysylltu â ni fel y gall ein Harbenigwyr Cyflogaeth roi'r gefnogaeth ddwys y mae arnynt ei hangen i'w helpu i ddod o hyd i waith ac aros ynddo."

Canolfan Feddygol Clarence yn y Rhyl yw un o'r meddygfeydd sy'n cefnogi'r cynllun, ac mae Arbenigwyr Cyflogaeth MI FEDRAF yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn y feddygfa.

Dywedodd y meddyg teulu Dr Simon Dobson o Ganolfan Feddygol Clarence:

"Rydym yn gweld llawer o bobl â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol bob wythnos ac rydym yn cydnabod nad oes 'pilsen i bob salwch'. Mae tystiolaeth gref y gall bod mewn gwaith chwarae rhan allweddol mewn cefnogi adferiad parhaus pobl o anawsterau iechyd meddwl. 

"Mae gweithwyr proffesiynol iechyd ac arbenigwyr cyflogaeth yn cydweithio mewn ffordd llawer mwy integredig i ddarparu'r gefnogaeth hon ar draws Gogledd Cymru, yn enwedig yma yng ngogledd Sir Ddinbych.

"Mae'n werthfawr gallu gweithio gydag Arbenigwyr Cyflogaeth MI FEDRAF i alluogi pobl i fynd yn ôl i weithio a chymryd rheolaeth o'u hiechyd meddwl a lles."

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/tudalen/99120