Mae prosiect sy'n helpu plant i ddysgu am ymwrthedd gwrthficrobaidd a sut mae germau'n gweithio wedi ei roi ar y rhestr fer am wobr genedlaethol.
Mae gwaith y Fferyllydd Gwrthficrobaidd, Kailey Ben-Sassi, i ddarparu adnoddau i athrawon ledled Conwy a Sir Ddinbych yn cael ei gydnabod yn y Gwobrau ac Addysg a Rennir Gwarchodwyr Gwrthfiotigau.
Fel rhan o'r prosiect e-Bug, sydd ar y rhestr fer yn y categori Plant a Theulu, darparwyd adnoddau i fwy na 35 o athrawon i ddysgu disgyblion ysgolion cynradd am sut mae gwrthfiotigau'n gweithio, pam ei bod yn bwysig eu defnyddio'n iawn, ac atal heintiau. O ganlyniad, a hyd yn hyn mae bron i 400 o blant wedi cael budd o'r sesiwn yn defnyddio adnoddau ar-lein e-Bug.
Yn ogystal â gwersi am sut y datblygwyd gwrthfiotigau a'r hyn maen nhw'n ei wneud, rhannodd Kailey wybodaeth am pam ei bod yn bwysig i ddefnyddio gwrthfiotigau'n gyfrifol.
Gorffennwyd y sesiynau gyda'r disgyblion yn cofrestru i fod yn Warcheidwaid Gwrthfiotig, gan addo i gefnogi defnyddio gwrthfiotigau'n ddiogel.
Nid yw gwrthfiotigau'n gweithio ar firysau megis annwyd, y ffliw a dolur gwddf, ac achosir miloedd o farwolaethau'n flynyddol oherwydd bod rhai bacteria peryglus wedi dod yn fwy ymwrthol i wrthfiotigau, sy'n golygu efallai na fyddant yn gweithio i chi pan fyddwch fwyaf eu hangen.
Mae adnoddau Kailey ar gael yn ddigidol ar ôl y cyfnod clo i helpu athrawon gynnig adnoddau i ddisgyblion ym mlynyddoedd tri i chwech yr ysgol, sy'n astudio o gartref.
Mae'r adnoddau'n cynnwys croeseiriau, chwileiriau a gweithgareddau rhyngweithiol eraill i helpu plant i ddysgu am beth yw organebau niweidiol a sut y gall firysau megis y ffliw achosi afiechydon.
Dywedodd Kailey: "Rwy'n falch iawn bod ein prosiect e-Bug gyda BIPBC ar y rhestr fer ar gyfer y Gwobrau Gwarcheidwaid Gwrthfiotigau.
"Am nifer o flynyddoedd, mae ein hymdrechion stiwardiaeth gwrthficrobaidd wedi canolbwyntio ar weithwyr proffesiynol gofal iechyd a rhagnodwyr. Symudodd y prosiect hwn y ffocws at blant a fydd nid yn unig yn ddefnyddwyr gwrthfiotigau yn y dyfodol ond hefyd yn rhagnodwyr posib eu hunain.
"Rydym yn gwybod bod plant yn hoff o siarad a'r gobaith yw mewnosod y neges bwysig am ddefnyddio gwrthfiotigau ac atal haint mewn ffordd hwyliog ac ymgysylltiol, y bydd yna'n ail-adrodd y neges wrth deuluoedd a ffrindiau gan ei lledaenu."
Mae Gwobrau ac Addysg a Rennir Gwarchodwyr Gwrthfiotigau yn dathlu sefydliadau ac unigolion sydd wedi dangos llwyddiant wrth fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd ar lefel lleol, rhanbarthol neu genedlaethol.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth a manylion am sut mae cofrestru fel gwarchodwr gwrthfiotigau ar www.antibioticguardian.com.