Mae’r Tîm Diabetes Paediatrig yn Ysbyty Gwynedd yn rhoi cefnogaeth ychwanegol i blant i’w helpu i reoli eu diabetes.
Yn ddiweddar ymunodd grŵp o blant â’r tîm am fore o chwaraeon dŵr ym Mhlas Menai a oedd yn cynnwys bwrdd padlo a chaiacio.
Roedd y sesiwn hwn yn rhoi cyfle i blant sy’n byw â Diabetes Math 1 i ymarfer rheoli eu diabetes mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Dywedodd Iona Jones, Dietegydd Diabetes Paediatrig: “Fel tîm rydym yn ymrwymo i gefnogi plant sydd yn yr ysgol uwchradd neu sydd wedi symud yno’n ddiweddar.
“Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod heriol i’r plant i gyd a dyna pam rydym yn gobeithio parhau i gynnig cyfarfodydd a gweithgareddau i blant yn y grŵp oedran hwn yn y dyfodol.
“Cawsom adborth cadarnhaol gan y plant a chysylltodd ychydig o’r rhieni ar ôl y digwyddiad i ddiolch a rhoi gwybod i ni fod eu plant wedi cael amser da iawn.”
Mae diabetes yn gyflwr gydol oes sy’n achosi i lefel siwgr gwaed unigolyn i fynd yn rhy uchel. Mewn diabetes math 1 nid yw’r pancreas bellach yn creu inswlin, felly y mae’n rhaid ei chwistrellu i reoli lefelau glwcos y gwaed. Mae yna wahanol fathau o inswlin, a gymerir ar adegau gwahanol.
Mae Jacqueline Adams, mam hogyn a gymerodd ran yng ngweithgareddau’r dydd, wedi canmol y staff am drefnu’r digwyddiad.
Dywedodd: “Hoffwn ddiolch i’r tîm am drefnu’r bore gweithgareddau ym Mhlas Menai.
“Bu i fy mab Harri wirioneddol fwynhau ei hun ac mae llawer o’r rhieni wedi bod yn rhoi sylwadau cadarnhaol iawn ar-lein.
“Rwy’n meddwl ei bod yn wych bod y plant yn cael gweld y tîm y tu allan i’r sefyllfa feddygol ac iddynt gael cipolwg o’r penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud bob tro mae ein plant yn bwyta neu’n gwneud ymarfer corff.”
Mae’r tîm yn awr yn gobeithio cynnal mwy o ddigwyddiadau yn y dyfodol i gefnogi plant sydd â diabetes y tu allan i’r ysbyty.
“Byddwn yn parhau i gynnal ymweliadau nyrsys arbenigol a dietetig ar y cyd mewn ysgolion uwchradd i roi sesiynau addysg a chyfle i blant ddod i nabod eu gilydd yn yr ysgol.
“Yn y gorffennol mae hwn wedi bod yn gyfle i blant godi unrhyw bryderon neu anawsterau sydd ganddynt wrth reoli eu diabetes yn yr ysgol,” ychwanegodd Iona.