Neidio i'r prif gynnwy

Penodi tair nyrs arbenigol i gynorthwyo cleifion sydd â chanser eilaidd y fron a'r colon a'r rhefr

23 May, 2023

Mae cleifion sydd â chanser eilaidd y fron a'r colon a'r rhefr yn elwa o gael cymorth gan dair nyrs arbenigol newydd.

Donna Owen-Williams, Nia Whelan a Katie Hughes yw'r Nyrsys Arbenigol Clinigol cyntaf sy'n arbenigo mewn Canserau Metastatig i gael eu penodi gan y Bwrdd Iechyd.

Bydd canser metastatig yn digwydd pan fydd y canser yn lledaenu i rannau eraill o'r corff. Er bod opsiynau o ran triniaethau ar gael i helpu i reoli'r canser, gwella ansawdd bywyd a helpu pobl i fyw yn hirach, ni ellir ei wella yn anffodus.

Mae'r nyrsys ar gael i gynorthwyo cleifion wrth iddynt brofi effeithiau corfforol ac emosiynol y clefyd, yn cydlynu eu triniaeth a'u gofal, yn eu cyfeirio at wasanaethau cymorth ac yn bwynt cyswllt uniongyrchol i ymateb i gwestiynau neu bryderon.

Dywedodd Donna Williams, y Nyrs Glinigol Arbenigol yn Ysbyty Gwynedd sy'n arbenigo mewn Canserau Metastatig ac a oedd yn gweithio'n flaenorol yn Uned Dydd Alaw: “Mae ar ein cleifion sy'n byw gyda chanserau metastatig angen cymorth arbenigol i ddiwallu eu hanghenion cymhleth ac ymdrin â'r ansicrwydd maent yn ei wynebu o ran y dyfodol. Hanfod ein rolau ni yw sicrhau y cânt driniaeth a gofal heb ei ail.

“Rwyf i wedi gweithio'n flaenorol yn Uned Dydd Alaw, ac ar ôl i mi gymhwyso, gweithiais yn Ward Aran yn gofalu am gleifion yr oedd COVID arnynt, felly mae hwn yn gam nesaf da iawn i mi o ran fy ngyrfa nyrsio.

“Mae cael bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu un o wasanaethau newydd y Bwrdd Iechyd yn brofiad cyffrous iawn.”

Nia Whelan yw'r Nyrs Glinigol Arbenigol yn Ysbyty Glan Clwyd sy'n arbenigo mewn Canserau Metastatig; dechreuodd ei gyrfa nyrsio yn y 1990au a dychwelodd ar ôl magu teulu. Dywedodd Nia y bydd y rolau nyrsio newydd hyn yn helpu i sicrhau gofal wedi'i deilwra yng ngwir ystyr y gair i'r grŵp hwn o gleifion.

Dywedodd: “Mae'r rhain yn swyddi nyrsio y mae galw mawr amdanynt, a byddant yn ein helpu ni i gynnig gofal wedi'i deilwra yng ngwir ystyr y gair i gleifion, ac fe wnaiff hynny gynnig buddion cadarnhaol di-oed i bobl yn ein rhanbarth y mae canser yn effeithio arnynt.

“Ar ôl gweithio yn uned cemotherapi dydd Ysbyty Glan Clwyd, rwy'n deall pa mor bwysig yw meithrin perthynas â'ch cleifion. Ni yw'r gweithwyr arbenigol; mae'n ofal nyrsio proffesiynol arbenigol iawn, ac mae'n fraint i mi allu cynorthwyo fy nghleifion i allu byw bywyd sydd mor normal ag y bo modd ar ôl cael gwybod na ellir gwella eu canser.”

Dywedodd Katie Hughes, y Nyrs Glinigol Arbenigol yn Ysbyty Maelor Wrecsam sy'n arbenigo mewn Canserau Metastatig ac sydd wedi gweithio'n flaenorol yn Hosbis Tŷ'r Eos a Hosbis Hafren, y bu bwlch sylweddol o ran y cymorth a oedd ar gael i gleifion sydd â chanser metastatig.  

Dywedodd: “Bydd ein rolau newydd y sicrhau bod y sawl sydd â chanser metastatig yn cael y cymorth pwrpasol y mae ei angen arnynt.

“Mae cael diagnosis sy'n cadarnhau canser metastatig yn brofiad sy'n peri trallod, a bydd gan gleifion lawer o gwestiynau a phryderon. Rydym yn gobeithio gallu lliniaru rhai o'r pryderon hynny trwy fod yn ffynhonnell o gymorth ar ôl cael diagnosis, yn ystod y driniaeth ac wedi hynny.

“Yn ogystal â chynorthwyo i gydlynu triniaethau ac apwyntiadau, byddwn hefyd yn cynorthwyo pobl i ymdopi ag effaith emosiynol eu diagnosis arnynt hwy ac ar eu teulu.

“Gall cleifion sydd ag ymholiadau neu bryderon ein ffonio ni, a gall hynny gynnig cysur a sicrwydd ar adeg sy'n peri llawer o bryder.”

Dywedodd Siân Hughes-Jones, Pennaeth Nyrsio'r Uwch Adran Canser: “Rwy'n teimlo'n gryf iawn ynghylch gwrando ar gleifion ac ymateb i'w hanghenion. Canfuwyd yn sgil adborth gan gleifion a thimau clinigol bod angen sylweddol am y rolau hyn ledled ardal y Bwrdd Iechyd. Rwy'n ymfalchïo yn y tîm ac rwy'n edrych ymlaen at eu cynorthwyo i sicrhau'r gofal a'r profiad gorau i'n cleifion.”