Neidio i'r prif gynnwy

Pencampwr Profiad y Claf y cyntaf i dderbyn gwobrau efydd ac arian am fynd yr ail filltir

28/09/2021

Mae cydlynydd gweithgareddau ar gyfer cleifion wedi derbyn gwobr efydd ac arian am ei hymdrechion ychwanegol fel Pencampwr Profiad y Claf.

Fe wirfoddolodd Diane Sweeney, sy’n gweithio yn Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug, i od yn bencampwr Profiad y Claf ac mae hi wedi creu a datblygu gweithgareddau cyffroes ar gyfer ei chleifion. Mae Diane yn gweithio efo’r cleifion a’r staff, ond hefyd gyda'u perthnasau, i’w helpu hi i wybod beth yw eu diddordebau, i ddod â’u personoliaeth allan ac i annog ymwneud cymdeithasol.

Dywedodd Diane: “Rwyf wastad wedi teimlo bod gan y genhedlaeth hŷn rhywbeth gwerthfawr iawn i’w rannu. Mi ddylem fod yn gwrando ar eu hatgofion a’u profiadau. Cyn COVID-19 roedd ysgolion lleol yn dod i ymweld yn rheolaidd ac mi roedd y cleifion a’r plant yn elwa o hyn. Roedd gennym hefyd sesiynau therapy PAT sydd yn arwain at ganlyniadau positif i gleifion.

“Pan ddaeth COVID-19, mi ddaeth popeth i stop a dros nos, mi roeddwn i wedi dod yn ffrind, yn deulu ac yn gydlynydd gweithgareddau. Mi roedd y cleifion a’r perthnasau yn ei gweld hi’n anodd achos doedd ganddyn nhw ddim wynebau cyfarwydd na theulu yn dod i’w gweld.

“I helpu’r sefyllfa mi gychwynnais wneud llyfrau atgofion ar gyfer cleifion. Roedd y teuluoedd yn cymryd rhan yn hyn. Roeddwn yn gofyn i deuluoedd am luniau a dywediadau ac fe roddodd y llyfrau hyn rywbeth i ni allu siarad amdanyn nhw efo’r cleifion. Mae’r holl staff yn gallu defnyddio’r llyfrau ac mae’r cleifion yn gallu mynd â’r llyfrau efo nhw wedyn ar gam nesaf eu taith.

“Rwyf wrth fy modd yn cael derbyn y ddwy wobr, ac rwyf wrthi’n barod yn gweithio ar y Wobr Aur. Un teulu ydyn ni yn Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug, rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod profiadau cleifion yn rhai positif ac rydym yn llwyddo drwy greu gweithgareddau, gwrando ar bryderon ac yn bwysicaf oll, drwy ganolbwyntio ar beth sydd yn bwysig i bob claf. Dim ond gyda chefnogaeth fy nghydweithwyr ydw i’n gallu cyflawni hyn; fuaswn i ddim yn gallu gwneud hyn o gwbl heb Debbie, ein Swyddog Cadw Tŷ, oherwydd mae hi’n rhan fawr o’r hyn rydw i’n ei wneud.”

Mae Diane hefyd wedi casglu gwybodaeth a lluniau o gartrefi gofal lleol i ddangos i gleifion a helpu wrth iddyn nhw gael eu symud o ysbyty i leoliad gofal. Mae hi hefyd yn trefnu teithiau rhithiol fel y gall cleifion weld lle maen nhw’n mynd unwaith meant yn cael eu rhyddhau.

Mae dros 90 o aelodau o staff o holl ysbytai, lleoliadau clinigol a gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cofrestru i fod yn bencampwyr. Mae rôl y pencampwr cleifion yn galluogi aelodau o staff i gefnogi’r Tîm Profiad y Claf a Gofalwyr drwy ganolbwyntio ar gasglu adborth cleifion a gyrru newid.

Dywedodd Katie Hender, Rheolwr Profiad y Claf: “Mae’r ymdrech mae Diane wedi ei roi i’r fenter Pencampwr y Claf a’r Gofalwr yn anhygoel. Rydyn ni mor falch o’i llwyddiannau ac rydym yn edrych ymlaen i’w gweld yn gweithio tuag at ei gwobr Aur.

Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’n holl Bencampwyr y Claf a Gofalwyr a hoffem ddiolch iddynt am eu gwaith caled a’u cefnogaeth barhaus.”