Mae partneriaeth arloesol sydd â'r nod o roi dewis i deuluoedd yng Ngogledd Cymru o ran ble y bydd eu plentyn sydd â salwch difrifol yn marw wedi'i lansio gan Hosbis Plant Tŷ Gobaith a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Tan nawr, caiff y rhan fwyaf o ofal diwedd oes i blant yn y rhanbarth ei roi yn yr hosbis neu'r ysbyty, ond mae ymchwil yn dangos y byddai'r rhan fwyaf o deuluoedd yn dewis i'w plant farw gartref.
Bydd y Gwasanaeth Nyrsio Gofal Diwedd Oes y Tu Allan i Oriau yn caniatáu i deuluoedd gael y dewis hwnnw, ac yn creu rhwydwaith o nyrsys i'w cynorthwyo yn eu cartref eu hunain os byddant yn penderfynu y byddai'n well ganddynt i'w plentyn farw gartref.
Dywedodd Pennaeth Tŷ Gobaith Angharad Davies: "Mae'r bartneriaeth hon yn ymwneud â rhoi dewis i deuluoedd. Rydym ni'n gwybod bod y rhan fwyaf o deuluoedd eisiau bod gartref gyda chymorth priodol.
“Gyda'n gilydd, byddwn yn rhoi cymorth 24 awr y dydd, saith niwrnod o'r wythnos er mwyn caniatáu i'r cymorth yma ddigwydd."
Ychwanegodd fod rhai teuluoedd wedi cael y cymorth hwn yn y gorffennol, ond ei fod trwy ewyllys da staff nyrsio a'i fod yn dibynnu ar ffactorau fel ble roedd y teulu'n byw.
Dywedodd Jo Douglas, Rheolwr Gwasanaeth Clinigol BIPBC yn Ardal y Gorllewin: “Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn fwy cadarn a chynaladwy o lawer, ond hefyd yn hyblyg ac yn ystwyth. Mae sicrhau bod modd i bawb fanteisio ar y gwasanaeth waeth ymhle maen nhw'n byw yng Ngogledd Cymru yn agos iawn at galon pawb un ohonom.
“Mae'n ymwneud â rhannu ein profiad a gweithio ochr yn ochr â'n gilydd i sicrhau bod hyn yn gweithio i deuluoedd."
Mae'r fenter wedi'i hariannu am ddwy flynedd gan Fwrdd Diwedd Oes Cymru Gyfan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Caiff ei harwain gan gydlynydd diwedd oes sy'n gweithio o Dŷ Gobaith a bydd tîm gofal diwedd oes yn cynnwys nyrsys hosbis, nyrsys ysbyty, nyrsys cymunedol a nyrsys CLIC yn gweithio yno.
Dywedodd Barbara Evans, Is-gadeirydd Hosbisau Plant Hope House sy'n cynnwys Tŷ Gobaith, ei bod yn hynod falch bod y ddau sefydliad iechyd yn cydweithio.
“Mae'r fenter hon yn fodd o ddefnyddio profiad ac adnoddau'n wirioneddol effeithiol. Gweithio mewn partneriaeth yw'r unig ffordd ymlaen ac rydw i'n siŵr y bydd yn llwyddiannus dros ben, sydd ond yn gallu bod yn fuddiol i'r teuluoedd."