Tachwedd 3, 2023
Mae deuawd ymroddedig sy'n helpu ceiswyr lloches a ffoaduriaid i fanteisio ar wasanaethau iechyd wedi cael eu cydnabod am eu hymrwymiad i rai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yng Ngogledd Cymru.
Cafodd Jackie Williams, sy'n ymwelydd iechyd arbenigol a Sharon Woods, sy'n nyrs staff gymunedol eu henwi fel enillwyr yng nghategori Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant yng Ngwobrau Cyrhaeddiad Betsi Cadwaladr.
Mae'r ddwy yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid ar draws Wrecsam a Sir y Fflint i roi cymorth i bobl sydd wedi cael eu dadleoli ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag iechyd.
Maent yn cwblhau asesiadau iechyd cynhwysfawr gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid, yn helpu eu cleifion i dderbyn y gofal meddygol a deintyddol sydd eu hangen arnynt, ac yn cydlynu apwyntiadau ar gyfer brechiadau, iechyd meddwl a gwasanaethau eraill.
Gyda llwyth gwaith mawr a chynyddol, mae Jackie a Sharon wedi parhau i roi cymorth ychwanegol i blant a phobl ifanc sydd wedi'u dadleoli - gan weithio'n agos gydag ysgolion a nyrsys ysgol i sicrhau bod plant yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gynefino ag amgylchedd y dosbarth.
Cafodd Jackie a Sharon eu henwebu am y wobr gan Sarah Jones, Rheolwr y Gwasanaeth Nyrsys Ysgol ac Ymweliadau Iechyd.
"Mae Jackie a Sharon yn mynd y filltir ychwanegol i weithio'n agos gyda phlant a'u teuluoedd er mwyn eu cefnogi yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod trawmatig," meddai Sarah.
"Maen nhw’n rhoi o'u hamser i wrando ar anghenion unigol a'u deall, gan barchu diwylliannau a chredoau gwahanol a chyfeirio at asiantaethau eraill er mwyn rhoi cymorth ehangach y tu allan i faes iechyd."
Nid oedd Jackie a Sharon yn gallu bod yn bresennol yn y cyflwyniad oherwydd y tywydd garw – ond cafodd y wobr ei chasglu ar eu rhan gan Andrea Hughes, ein Cyfarwyddwr Nyrsio yng Nghymuned Iechyd Integredig Ardal y Dwyrain
Dywedodd Robyn Williams, o Agoriad, noddwr y wobr: "Mae sicrhau bod pawb yn cael mynediad teg at wasanaethau'n hollbwysig i ni ac i'r GIG.
"Roedd yn bleser gen i glywed am ymdrechion pob un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol am y wobr bwysig hon. Llongyfarchiadau i Jackie a Sharon am eu hymdrechion eithriadol i sicrhau bod pawb lle bo angen mynediad at wasanaethau'r GIG yn cael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen."
Dywedodd Jez Nash, Prif Weithredwr Centerprise International, noddwr y digwyddiad: “Rydym yn ein chweched flwyddyn yn noddi Gwobrau Cyrhaeddiad BIPBC, ac mae ymrwymiad rhagorol staff y GIG yng Ngogledd Cymru yn parhau i wneud argraff arnaf i.
"Maen nhw’n arloesol yn eu hagwedd at ddarparu gofal ac yn dangos tosturi di-ben-draw tuag at eu cleifion a’u cydweithwyr.
“Rydym yn falch iawn o rannu’r achlysur gyda 500 o staff y GIG, ac yn falch o allu parhau â’n cysylltiad â noson wych i ddathlu eu hymdrechion.
“Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd ar restr fer y gwobrau eleni.”
🔵 Cewch y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy gofrestru ar ein rhestr bostio.