Neidio i'r prif gynnwy

Oedolion ifanc yn cael cyfleoedd bywyd sy'n rhoi hwb i'w hyder trwy leoliadau yn y bwrdd iechyd

22.12.21

Chwe oedolyn ifanc yw'r diweddaraf i gael cyfleoedd i ddod o hyd i swydd trwy gynllun sy'n datblygu rhagolygon swydd i'r sawl sydd ag anableddau dysgu a / neu awtistiaeth.

Mae'r grŵp, sydd rhwng 18 a 25 oed, yn cael interniaethau yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Mae un ohonyn nhw, Tomos, 19 oed, wedi siarad am ei awydd i ofalu am yr henoed a sut mae paratoi cyn cael gwaith yn ei helpu i fagu hyder wrth iddo chwilio am swydd amser llawn.

Ar ôl mynychu chweched dosbarth Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl, cafodd brofiad gwaith yn gofalu am bobl hŷn mewn cartref gofal yn y dref.

Fodd bynnag, prin fu'r cyfleoedd gwaith amser llawn ers hynny, felly bachodd ar y cyfle i fod yn rhan o DFN Project SEARCH yn ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd Tomos: “Rwy'n dymuno gweithio yn yr ysbyty ac mae'n gyfle gwych.  Cefais wybod am y cwrs hwn a chredais ei fod yn dda iawn.

“Rydw i wedi gwneud profiad gwaith mewn cartref gofal, yn gofalu am gleifion, yn gwneud diodydd ac yn chwarae gemau gyda hwy.

“Hoffwn ddysgu am gymryd eu pwysedd gwaed a’u tymheredd, fel cynorthwyydd gofal iechyd, ac rydw i'n dymuno cael swydd amser llawn â thâl.”

Cyn ymgymryd â'u hinterniaethau ym mis Ionawr, mae'r ymgeiswyr wedi bod yn mynychu dosbarthiadau, gan ymgymryd â'u hyfforddiant gorfodol a dysgu am bolisïau'r GIG, yr hyn a ddisgwylir yn y gweithle a'r gwahanol rolau mewn ysbyty.

"Rydyn ni’n gwybod bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn,” meddai Tomos, a ddatgelodd ei fod yn hoffi cerdded, gwrando ar gerddoriaeth clybiau a mynd allan gyda’i ffrindiau yn ei amser hamdden.

Ychwanegodd: “Mae'r cwrs yn dda iawn oherwydd mae'n cynnig llawer o gyfleoedd a sgiliau. Rydyn ni'n cwrdd â phobl newydd ac mae wedi rhoi hyder i ni.”

Dywedodd anogwr cyflogadwyedd Agoriad, Nicola Jones: “Maen pawb ohonynt wedi gwneud yn dda iawn ac rydyn ni nawr ar ein pumed wythnos o hyfforddiant. Rydym wedi bod yn trafod amrywiol wybodaeth y GIG, yn dysgu technegau cyfweld ac yn creu portffolios un dudalen.

“Rydym hefyd wedi trafod sut yr hoffent gael eu trin fel eu bod yn ymwybodol o hynny.”

Mae DFN Project SEARCH yng Nglan Clwyd yn adlewyrchu rhaglen yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, a welodd dri chwarter ei 28 intern yn cael gwaith. 

Tomos completes some of his studies ahead of his internship


Mae hyn yn cymharu'n dda â'r darlun cenedlaethol lle mae llai na 10% o oedolion ifanc ag anableddau mewn cyflogaeth.

Mae pob lleoliad yn para 10-12 wythnos a gall pob ymgeisydd gymryd rhan mewn uchafswm o ddau.

Tra mewn gwaith mae ymgeiswyr yn dechrau bob dydd gydag awr yn yr ystafell ddosbarth, gan ddysgu pethau fel sut i ddarllen slip cyflog, yr ymddygiadau a ddisgwylir ganddynt a chysylltu â chymheiriaid a chyflogwyr, cyn mynd i weithio.

Ar ddiwedd y dydd maent yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth i gael cyfarfod briffio hanner awr am weithgareddau'r dydd.

Ar ddiwedd eu lleoliad, defnyddir y profiad a'r sgiliau a gafwyd i ymgeisio am swyddi o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae'n “droed yn y drws” at waith - felly cyhyd â'u bod yn cyd-fynd â meini prawf y swydd, byddant yn sicr o gael cyfweliad a byddant yn cael geirda o'u hinterniaeth.

Mae DFN Project SEARCH yn un o bedair elfen  y rhaglen Camu Mewn i Waith a ddyfeisiwyd gan weithlu a thîm datblygu sefydliadol y bwrdd.

Mae Camu Mewn i Waith yn ehangu cynllun mynediad i gyflogaeth i bobl sydd bellaf o'r farchnad swyddi.

Mae mwy na 200 o bobl wedi ennill cyflogaeth o ganlyniad i'r pedwar cynllun o dan ymbarél Camu Mewn i Waith.

Mae DFN Project SEARCH yn gweithredu gyda chefnogaeth Agoriad Cyf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cynghorau Sir Conwy a Sir Ddinbych, Engage to Change ac ICF a chyllid Rhaglen Trawsnewid Anabledd Dysgu.

Cyflwynir y prosiect Engage to Change trwy bartneriaeth rhwng Dysgu Anabledd Cymru, Agoriad Cyf, Prifysgol Caerdydd ac Elite. 

Fe'i hariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.