Mae nyrs sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi plant ag anableddau ac anghenion cymhleth wedi derbyn gwobr arbennig.
Cafodd Nans Jones, Nyrs Gyswllt Iechyd Llym Plant, ymweliad annisgwyl gan Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i gyflwyno gwobr Seren Betsi, wedi iddi gael ei henwebu gan gydweithiwr.
Dechreuodd Nans yn ei swydd yng Nghanolfan Datblygiad Plant Bangor yn Rhagfyr 2017, ac roedd ganddi rôl hanfodol yn sefydlu'r gwasanaeth cyswllt llym plant newydd, yr unig un o'i fath yng Nghymru.
Dywedodd ei chydweithiwr, Sarah Hughes, a enwebodd Nans, fod ei chydweithiwr yn sicrhau bod anghenion iechyd plant ag anableddau ac anghenion cymhleth yn cael eu diwallu yn briodol pan fyddant yn cael eu derbyn i'r ysbyty.
Meddai: "Ers i Nans fod yn ei swydd, mae hi wedi sicrhau bod bob plentyn sy'n cael ei dderbyn ar ward llym yn cael pasbort ysbyty a bod y rhai sy'n disgwyl am brofion mewnwthiol yn derbyn cefnogaeth.
"Mae hi hefyd wedi sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn gwybodaeth am driniaethau ac apwyntiadau ar ffurf sy'n ymarferol a dealladwy.
"Mae Nans wedi mynd allan o'i ffordd i ddarparu cefnogaeth i deuluoedd a phlant, ac yn aml wedi mynd ar y wardiau ar benwythnosau a gyda'r nos i sicrhau bod anghenion iechyd plant yn cael eu diwallu ond hefyd i ddarparu cefnogaeth i'w teuluoedd.
"Mae teuluoedd yn teimlo'n gyffyrddus ac yn hamddenol ac yn derbyn cefnogaeth dda gan Nans, ond yn fwy pwysig, yn teimlo eu bod yn cael rhywun i wrando arnyn nhw."
Daeth Nans i'r swydd hon yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid drwy Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru. Dywedodd ei bod wedi'i syfrdanu gan y wobr.
Meddai: "Cefais dipyn o sioc o dderbyn y wobr, oherwydd roedd yn hollol annisgwyl, ond mae'r holl beth yn wych, a hoffwn ddiolch o galon i'r rhai a wnaeth fy enwebu."
Ychwanegodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus: "Roedd hi'n bleser i mi gael cyflwyno Gwobr Seren Betsi i Nans, mae hi'n aelod o staff arbennig iawn ac wedi mynd allan o'i ffordd yn ei swydd i sicrhau bod plant ag anableddau dysgu ac anghenion cymhleth yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol, ynghyd â'u teuluoedd."