03/04/2023
Mae’r nyrs practis unigol gyntaf o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi derbyn gwobr genedlaethol am ei hymroddiad i gefnogi cartrefi gofal yn ystod y pandemig.
Dewiswyd Stacey Jones, Datblygwr Nyrsys Practis, o Gymuned Iechyd Integredig y Dwyrain sy’n cynnwys Sir y Fflint a Wrecsam, gan Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio (CNO) Cymru, i dderbyn Gwobr Rhagoriaeth CNO i nodi ei hymdrechion yn ystod y pandemig.
Ar ran Ms Tranka, cyflwynodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio BIPBC, flodau, bathodyn a thystysgrif Rhagoriaeth CNO i Stacey am ei hymdrechion yn gweithio gyda staff cartrefi gofal a’u cefnogi gan ennill eu parch a’u hymddiriedaeth.
Dywedodd Stacey: “Hoffwn ddiolch i Sue Tranka am fy newis i dderbyn y wobr hon. Rwyf wedi fy synnu ac yn falch iawn o gael fy nghydnabod am fy ngwaith gyda’r cartrefi gofal, a oeddwn yn ei ystyried yn ddyletswydd arnaf ar y pryd. Roedd yn anrhydedd i helpu’r cartrefi gofal hynny yn ystod cyfnod anodd iawn i’r staff, y preswylwyr a’u teuluoedd er mwyn sicrhau eu bod yn aros yn ddiogel.”
Yn ystod 2020/2021, darparodd Stacey sesiynau clinigol i uwchsgilio’r Nyrsys Cofrestredig i helpu i ofalu am breswylwyr a sgil-effeithiau clinigol Covid-19, yn ogystal â chynnig hyfforddiant ychwanegol i staff nad ydynt wedi’u cofrestru.
Hefyd, arweiniodd Stacey y gwaith cydlynu gydag awdurdodau lleol, Nyrsio Ardal, Diogelu a staff cartrefi gofal gan gynnal parch ac urddas pob cydweithiwr yn ystod cyfnod hynod anodd. Sicrhaodd fod teuluoedd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, a bod ymweliadau'n cael eu cefnogi lle'r oedd hynny'n bosibl i leddfu pryder a straen i'r preswylwyr a'u teuluoedd.
Dywedodd Ms Tranka: “Mae’n hynod bwysig i mi fel Prif Swyddog Nyrsio gydnabod gwaith eithriadol gweithwyr nyrsio proffesiynol, yn enwedig pan fyddant yn mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir yn eu swydd bob dydd. Mae Stacey wedi dangos ei hangerdd a'i hymrwymiad i ofal cleifion a gwelliant. Am y rheswm hwn, rwyf wedi cymryd yr amser i'w chydnabod ac i werthfawrogi ei chyfraniad. Da iawn Stacey."
Wrth gyflwyno'r wobr, dywedodd Angela: “Rwyf mor falch o Stacey fel y nyrs practis unigol cyntaf yn y Bwrdd Iechyd i ennill Gwobr Rhagoriaeth y CNO.
“Roedd y gefnogaeth a ddarparwyd gan Stacey i’r cartrefi yn sicrhau bod y preswylwyr yn gallu aros yn eu hamgylchedd eu hunain, roedd wedi grymuso’r staff i reoli’n glinigol gyda chleifion sâl iawn, yn annog deialog onest a thryloyw gyda pherthnasau a gweithredu briffiau diogelwch dyddiol i sicrhau bod gan yr holl staff y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i gadw eu hunain, eu cydweithwyr a'u preswylwyr yn ddiogel.
“Mae Stacey yn dangos ein gwerthoedd yn barhaus yn ei gwaith bob dydd, gan weithio’n broffesiynol ac yn dosturiol. Mae Stacey yn aelod gwerthfawr o'r tîm ac yn parhau i ysbrydoli ei chydweithwyr.”
Arweiniodd Stacey ar ddatblygu pecynnau addysg atal heintiau i hyfforddi staff cartrefi gofal sut i wisgo a thynnu PPE yn ddiogel, gan gynnwys masgiau priodol. Fe wnaeth hi deilwra’r hyfforddiant i fodloni anghenion y staff, gan sicrhau bod pawb yn cael eu cefnogi i’w cymhwysedd, a darparu addysg atal heintiau i deuluoedd gartref.