Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs o Dywyn mewn cystadleuaeth am wobr gymunedol arbennig

18.08.2022

Mae nyrs o Dywyn a wnaed yn ddigartref ar ôl i Storm Eunice ddifrodi to ei thŷ yn gynharach eleni wedi cael ei henwebu am wobr arbennig gan aelodau o'i chymuned.

Mae Sue Griffith, Nyrs Gymunedol yn Nhîm Nyrsio Ardal De Meirionnydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Cymunedol Spotlight Tywyn a'r Ardal eleni. Mae'r gwobrau'n dathlu unigolion, busnesau a sefydliadau arbennig yn y gymuned.

Mae Sue yn un o dri sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Caredigrwydd a Gofal ar ôl cael ei henwebu gan aelodau o'r gymuned sy'n ei disgrifio'n 'nyrs anhygoel ac ymroddgar'.

Yn anffodus, collodd Sue ei chartref yn ystod Storm Eunice yn gynharach eleni ac mae'n dal i fyw mewn llety dros dro. Ond er gwaethaf ei hanawsterau, mae hi wedi parhau i ofalu am bobl yn ei chymuned.

Dywedodd: "Gyda'r hyn sydd wedi digwydd, mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd dros ben ac mae gorfod symud llety bum gwaith wedi bod yn anodd i mi a fy ngŵr.

"Felly mae cael fy enwebu ar gyfer y wobr hon yn brofiad emosiynol iawn i mi. Dydw i ddim yn meddwl i mi wneud dim byd arbennig ond mae hi'n braf iawn gwybod fod rhywun wedi meddwl amdanaf i.

"Mae Fiona, yr Arweinydd Tîm a Metron Karen yn ogystal â gweddill y tîm wedi bod mor gefnogol. Rydw i'n ffodus iawn fy mod yn rhan o grŵp mor wych yn y gwaith."

Roedd Sue wedi breuddwydio am fod yn nyrs ers iddi fod yn ferch ifanc, ac ymunodd â thîm Nyrsio Ardal Meirionnydd tua chwe blynedd yn ôl.

"Roeddwn eisiau bod yn nyrs erioed a sawl blwyddyn yn ôl, roeddwn yn gweithio yn yr Uned Newyddenedigol yng Nghaer. Yn anffodus bu'n rhaid i mi roi'r gorau i'r swydd gan nad oedd gen i ddigon o amser i ofalu am fy mhlant a gweithio.

"Flynyddoedd yn ddiweddarach pan oedd y tîm nyrsio cymunedol yn gofalu am fy nhad a fu farw, gwelais y gwaith gwych roedd y nyrsys cymunedol yn ei wneud ac fe feddyliais pam nad oeddwn i ddim yn dal i nyrsio?

"Penderfynais fynd yn ôl i nyrsio a gwnes leoliad gyda'r Tîm Nyrsio Cymunedol yn Nhywyn. Ar ôl hynny, roeddwn i'n ddigon ffodus i gael swydd lawn amser gyda nhw.

Mae’n swydd anhygoel, does dim dau ddiwrnod yn debyg, ac rydych chi’n meithrin perthynas gyda’r cleifion a’u teuluoedd. Mae'n swydd wych," ychwanegodd Sue.

Dywedodd Karen Bampfield, Metron Gymunedol Dwyfor a Meirionnydd: "Hoffwn ddymuno'r gorau i Sue. Rwy'n hynod o falch bod Sue wedi cael ei henwebu ar gyfer y wobr hon. 

"Cafodd Sue ei henwebu ar gyfer y Wobr Caredigrwydd a Gofal ac mae hyn yn disgrifio Sue i'r dim. Mae Sue yn nyrs a chydweithiwr arbennig o garedig a gofalgar; mae hi bob amser yn mynd gam ymhellach i'r cleifion a'r teuluoedd sydd yn ei gofal ac mae'n rhan allweddol o'i chymuned leol."

Ychwanegodd Fiona Jones, Arweinydd Tîm Nyrsio Ardal Meirionnydd: "Rwy'n credu bod Sue yn llawn haeddu bod yn ymgeisydd ar gyfer y wobr hon. Ymunodd Sue â Thîm Nyrsio Ardal Tywyn ar ôl gweld y gofal a gafodd ei thad gan y tîm. Fe ysgogodd hyn Sue i gwblhau ei chwrs dychwelyd i nyrsio a dod yn rhan o'r tîm ar ôl cwblhau’r cwrs. Mae hi'n aelod o staff sy’n llawn cymhelliant, yn ysgogol ac yn dosturiol ac mae bob amser yn ymdrechu i ddarparu'r gofal gorau i'w chleifion. Mae hi hefyd yn mentora myfyrwyr yn dda ac yn fy nghefnogi i a chydweithwyr eraill yn y tîm. Mae hi’n aelod gwerthfawr iawn o’r tîm nyrsio ardal yma yn Nhywyn."

Cynhelir y seremoni wobrwyo a drefnir gan Gyngor Tref Tywyn a'r Llusern Aur yn Sinema'r Llusern Aur ddydd Sadwrn, 24 Medi 2022.