Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs Gofal Critigol a gollodd ei nain i COVID-19 yn annog y cyhoedd i ddilyn y canllawiau er mwyn atal y firws rhag lledaenu

Mae nyrs Gofal Critigol a gollodd ei nain, yn anffodus, i COVID-19 yn annog eraill i ddilyn y canllawiau er mwyn atal rhag lledaenu'r firws.

Mae Leisa Jones, sy'n gweithio ar Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd, wedi bod yn gweithio trwy gydol y pandemig ac mae wedi gweld o lygad y ffynnon yr effaith y gall y firws ei gael ar gleifion a'u teuluoedd.

Yn anffodus, gwnaeth Leisa golli ei nain, Eleanor Jones, yn gynharach eleni ar ôl iddi ddal COVID-19, a hithau'n 91 oed.

Dywedodd: “Roedd yn ergyd enfawr i fi a'm teulu golli nain i COVID-19 ond hoffem ddiolch i'r staff yn Ysbyty Penrhos Stanley am y gofal y gwnaethant ei roi yn ystod ei hamser yn yr ysbyty. 

“Cyrhaeddodd oedran ffantastig a bu'n byw ei bywyd i'r eithaf. Fodd bynnag, roedd yn anffodus iawn iddi ddal y firws ac i hwnnw fod yn rheswm dros ei cholli.

“Roedd hynny'n fodd o'm hatgoffa ei bod yn hynod bwysig dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru. Mae yna bobl sy'n agored i niwed yn ein cymdeithas ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal y firws rhag lledaenu er mwyn sicrhau ein bod yn cadw pawb yn ddiogel."

Wrth i'r achosion gynyddu ac wrth i fesurau llymach gael eu cyflwyno mewn pedair sir yng Ngogledd Cymru, mae Leisa yn paratoi i ofalu am fwy o gleifion sydd â'r firws dros fisoedd y gaeaf.

Dywedodd: “Nid yw COVID-19 wedi dod heb heriau gan nad ydym yn gwybod effeithiau'r firws ar ein cleifion, ond yn bersonol, mae'r profiad wedi bod yn un gwerth chweil i mi ac yn agoriad llygad.

“I mi, y peth anoddaf oedd gweld nad oedd teuluoedd yn cael ymweld â'u hanwyliaid. Roedd llawer o'n cleifion yn mynd trwy'r adeg anoddaf yn eu bywydau ac roeddent yn gwneud hynny heb gymorth gan eu teulu, sy'n hynod werthfawr i'r rhan fwyaf o gleifion sy'n sâl."

Mae Leisa bellach yn annog y cyhoedd ledled Gogledd Cymru i weithio gyda'i gilydd er mwyn helpu i gadw lefel yr achosion yn isel ar draws ysbytai yng Ngogledd Cymru.

“Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am bopeth maen nhw wedi'i wneud hyd yn hyn. Mae eu cefnogaeth wedi bod yn hynod werthfawr, mae'r haelioni a'r gefnogaeth rydym wedi'u gweld dros y chwe mis diwethaf wedi bod yn anhygoel.

"Er hynny, cofiwch yr effaith wirioneddol y mae'r firws yma yn ei gael ar bob un ohonom, y gymdeithas gyfan a'n system gofal iechyd.

“Y ffordd orau o amddiffyn ein hunain yw parhau i wisgo masgiau neu orchuddion wyneb pan fyddwn dan do, sicrhau ein bod yn cadw pellter cymdeithasol oddi wrth ein gilydd a golchi ein dwylo'n rheolaidd yw'r ffordd orau o atal y firws rhag lledaenu.

“Byddwn yn annog pobl i fod yn ymwybodol o'r rheoliadau a'r canllawiau presennol sydd ar waith i'n helpu pob un ohonom. Yn benodol, mae'n helpu'r holl staff a'r Unedau Gofal Dwys i allu ymdopi â'r galw cynyddol dros y chwe mis diwethaf.

"Gyda'n gilydd, byddwn yn dod trwy hyn, helpwch i amddiffyn y GIG sydd mor bwysig i bob un ohonom ac i amddiffyn ein gilydd, wrth gwrs."