Mae Nyrs Glinigol Arbenigol Gastroenteroleg wedi'i chydnabod am ei sgiliau arwain rhagorol gyda gwobr arbennig.
Derbyniodd Iola Thomas Wobr Ymchwilydd Newydd yng Ngwobrau Rhagoriaeth Ymchwil ac Arloesi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eleni.
Mae Iola wedi cael canmoliaeth am gymryd rhan yn yr Astudiaeth Clarity yn ddiweddar. Mae hon yn edrych ar effaith dwy feddygaeth fiolegol ar haint COVID-19, brechu ac ymateb imiwnyddol yn achos pobl sydd â Chlefyd Llidiol y Coluddyn (IBD).
Gwnaeth yr astudiaeth roi'r cyfle i'r tîm ymchwil ymchwilio i effaith therapi biolegol ac imiwnofodiwleiddio ar haint COVID-19 ac imiwnedd yn achos cleifion sydd ag IBD.
Dywedodd Alice Thomas, Rheolwr y Tîm Ymchwil yn Ysbyty Gwynedd, a enwebodd Iola: "Mae Iola wastad wedi bod yn awyddus iawn i hyrwyddo ymchwil clinigol ac i gymryd rhan ynddo ac mae'n weithgar iawn o ran cefnogi'r Adran Ymchwil i sgrinio astudiaethau posibl ar gyfer dichonoldeb.
"Pan gafodd yr astudiaeth Clarity ei chyflwyno i'w hadolygu pan oedd y Pandemig yn ei anterth, roedd Iola yn awyddus i gymryd rhan gan fabwysiadu rôl Prif Ymchwilydd.
"Bu'n gweithio'n agos gyda Thîm Ymchwil Ysbyty Gwynedd i agor yr astudiaeth, gan ganfod y cleifion perthnasol a rhoi cymorth i'r Tîm Ymchwil.
"Mae wedi bod yn bleser agor astudiaeth i Iola a'i phoblogaeth o gleifion o'r diwedd. Gwnaethom lwyddo i recriwtio 45 o gleifion mewn cyfnod o dri mis gan ragori ar ein targed o 30.
"Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi Iola unwaith eto yn y dyfodol a byddem yn ei hannog i fod yn llysgennad i hybu Arbenigwyr Nyrsio Clinigol i dderbyn rôl Prif Ymchwilwyr."
Dywedodd Iola ei bod yn falch iawn ac wedi'i syfrdanu i dderbyn y wobr ac yn falch i fod wedi bod rhan o'r tîm sy'n gweithio ar yr astudiaeth hon.
Dywedodd: "Mae wedi bod yn ymdrech ar y cyd o'r cychwyn cyntaf. Mae'r tîm ymchwil, dan arweiniad Alice Thomas ynghyd â Caroline Mulvaney Jones, Julia Roberts a Jeannie Bishop wedi gweithio'n ddiflino i goladu data ar gyfer yr astudiaeth hon; o fewn terfyn amser cyfyngedig iawn.
"Roedd bod yn rhan o astudiaeth aml-safle pan oedd y pandemig COVID-19 yn ei anterth yn heriol. Roedd cleifion yn ofnus am ddod i'r ysbyty i dderbyn eu meddyginiaethau rheolaidd, ond roeddent oll yn hynod awyddus i gymryd rhan ac rydw i'n arbennig o ddiolchgar iddynt ac yn falch o'u hawydd i gymryd rhan. Hoffwn hefyd ddiolch i'r tîm yn yr ystafelloedd therapi mewnwythiennol yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno, am gofleidio'r astudiaeth o'r diwrnod cyntaf un. Ar ddechau'r pandemig, ychydig iawn o wybodaeth a oedd gennym am effaith Covid-19 ar gleifion sy'n derbyn therapi biolegol ar gyfer clefyd llidiol y coluddyn. Fodd bynnag, bydd y wybodaeth a goladwyd gan arweinwyr yr astudiaeth yn helpu i arwain llunwyr polisi ar faterion sy'n ymwneud â therapi biolegol a'r Coronafeirws.
"Roeddwn wedi fy synnu i gael fy enwebu, ond rydw i'n falch iawn ac wedi fy syfrdanu i fod wedi derbyn y wobr. Diolch yn fawr iawn i bawb.”
Roedd Joanne Goss yn un o'r sawl a ddaeth yn agos i'r brig yn y categori hwn a chafodd ei chydnabod am ei chyfraniad at Gymhorthion Clyw ar gyfer tinitws a nam ysgafn ar y clyw (treial HEAR IT) sydd â'r nod o ateb p'un a yw cymhorthion clyw yn effeithiol i helpu pobl sydd â nam ysgafn ar y clyw a thinitws i reoli symptomau eu tinitws.
Ychwanegodd Lynne Grundy, Cyfarwyddwr Cyswllt Ymchwil ac Arloesi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Pleser o'r mwyaf yw cydnabod ein hymchwilwyr a'n harloeswyr sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofal cleifion.
"Roedd y dasg anodd iawn i'r beirniaid ddethol yr enillwyr gan fod cymaint o waith da ar y gweill, ac mae pob un mor haeddiannol o'r gwobrau.
"Rydym bellach yn edrych ymlaen at gynnig y gwobrau hyn bob blwyddyn."