Fe redodd Nyrs Adsefydlu Cardiaidd hael o Wrecsam, Farathon Llundain ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon, gan godi dros £3k ar gyfer yr elusen.
Aeth Jessica Norman, 30, sy'n gweithio i’r tîm Adsefydlu Cardiaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o beidio â gallu rhedeg milltir flwyddyn yn ôl i gwblhau y prawf mwyaf, sef marathon Llundain y penwythnos diwethaf.
Mae'r nyrs ymroddgar yn gweithio gyda chleifion adsefydlu cardiaidd dros Wrecsam a Sir y Fflint gan helpu cleifion i wella o ddigwyddiadau cardiaidd a byw bywydau iach, actif.
Dywedodd Jessica, " Fy mreuddwyd eithaf oedd rhedeg Marathon Llundain, er nid oeddwn wir yn credu y buaswn yn ei wneud. Mae gweithio gydag unigolion, a gwrando ar straeon y rhai sydd wedi bod drwy ddigwyddiadau cardiaidd sy'n newid bywydau fel Nyrs Arbenigol Adsefydlu Cardiaidd wedi fy ysbrydoli i anelu at fy mreuddwydion, yn ogystal â gwella fy ffitrwydd personol a'm hiechyd.
"Hoffwn ddiolch i bawb am eu haelioni. Rwyf wrth fy modd fy mod wedi codi llawer mwy na fy nharged codi arian. Rwy'n gwybod y bydd yr arian yn helpu Sefydliad Prydeinig y Galon, a'r gwaith pwysig maen nhw'n ei wneud gyda chleifion.
"Byddwn i'n annog unrhyw un sy'n meddwl rhoi eu henw i lawr ar gyfer marathon i fynd amdani! Nid oeddwn i erioed yn meddwl y byddwn i'n gallu ei wneud, ond gyda llawer o amynedd, dyfalbarhad a hyfforddiant mi wnes i gyrraedd yno, ac roedd yn un o brofiadau gorau fy mywyd."