Mae 'nyrs a model rôl anhygoel' wedi derbyn gwobr arbennig am ei gwaith diflino i wella'r gofal arbenigol a roddir i bobl sydd ag anableddau dysgu ar draws Gogledd Cymru.
Stephanie Moores, Dirprwy Brif Nyrs Ward ar Ward Anableddau Dysgu Foelas yn Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan, yw'r diweddaraf i ennill Gwobr Seren Betsi.
Wedi'i sefydlu yn 2016, mae'r wobr yn anrhydeddu gwaith caled ac ymroddiad staff y GIG a gwirfoddolwyr yng Ngogledd Cymru.
Mae Ward Foelas, sydd wedi'i lleoli rhwng y môr a Mynyddoedd y Carneddau, yn rhoi gofal arbenigol i hyd at wyth o oedolion sydd ag anableddau dysgu ac anghenion iechyd cymhleth.
Mae'r tîm wedi parhau i roi gofal arbenigol sy'n canolbwyntio ar unigolion trwy gydol pandemig COVID-19.
Cafodd Stephanie ei henwebu am y wobr gan Hannah Williams a Julie Jones sy'n Gynorthwywyr Gofal Iechyd ar Ward Foelas, y gwnaeth ei chanmol am fynd y filltir ychwanegol bob amser i roi cymorth i gleifion a staff.
Dywedodd Hannah: “Mae Steph yn sicrhau bod cleifion yn ganolog i ofal yn gyson ac mae'n ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i'w hanghenion a'u dymuniadau, gan sicrhau ein bod yn gwrando arnynt a'n bod yn cael eu trin mewn ffordd urddasol, barchus a chefnogol.
"Mae ar rai o'n cleifion angen gofal mwy arbenigol ac mae Steph yn sicrhau bod y tîm staff cyfan yn cymryd rhan i gefnogi'r anghenion penodol hyn.
“Mae Steph hefyd yn fodel rôl gwych ac mae'n sicrhau bod staff hefyd yn hapus yn y gweithle. Mae wedi helpu llawer o staff i gyflawni eu nodau, bydd rhai aelodau o staff yn mynd i'r brifysgol yn fuan i gwblhau eu graddau nyrsio ac mae hyn oherwydd bod Steph yn eu cefnogi ac yn eu hannog i wneud hynny."
Ychwanegodd Julie: “Mae Steph yn hawdd mynd ati, yn bositif ac mae hi bob tro yn gwneud amser i wneud yn siŵr ein bod ni'n iawn waeth pa mor brysur ydy hi. Mae hi'n nyrs ac yn fodel rôl anhygoel i minnau ac eraill ar Ward Foelas."
Hwn yw'r llwyddiant diweddaraf i dîm Ward Foelas, sydd eisoes wedi derbyn achrediad Rhwydwaith Ansawdd Anableddau Dysgu gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.
Y llynedd, gwnaeth y tîm drechu cystadleuaeth gan gannoedd o enwebiadau ledled y DU i gyrraedd rhestr fer gwobr fawreddog Nursing Times ar gyfer Nyrsys Anableddau Dysgu.