Neidio i'r prif gynnwy

Nod bwrdd iechyd a hosbis yw dod yn 'arweinydd y byd' ym maes gofal diwedd oes plant

Nod partneriaeth arloesol rhwng bwrdd iechyd ac elusen hosbisau yw gwneud Gogledd Cymru yn “arweinydd byd” wrth ofalu am blant â chyfyngiadau bywyd.

Dyna uchelgais a rennir gan brif weithredwr Hosbisau Plant Tŷ Gobaith, Andy Goldsmith, a Phrif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Jo Whitehead.

Er mwyn ceisio gwireddu'r uchelgais hon mae'r ddau sefydliad yn cyd-ariannu meddyg ymgynghorol arweiniol newydd ym maes gofal lliniarol pediatrig - y cyntaf yng Ngogledd Cymru.

Gan wasanaethu Gogledd a Chanolbarth Cymru, bydd deilydd newydd y swydd wedi'i leoli gyda'r elusen, sydd â hosbisau yn Nhŷ Gobaith yng Nghonwy a Hope House yng Nghroesoswallt.

Ar hyn o bryd, mae'r hosbisau'n cefnogi 287 o blant rhwng 0 a 25 oed, gan ddarparu gofal seibiant, argyfwng a diwedd oes.  O blith y plant hynny, mae 158 o Ogledd a Chanolbarth Cymru.

Mae'r elusen hefyd yn cynnig cymorth cwnsela a phrofedigaeth i deuluoedd y mae eu plentyn wedi marw, p'un ai a yw wedi gofalu am y plentyn yn ystod ei salwch, neu maent wedi troi at ar yr elusen ar ôl marwolaeth eu plentyn.

Bydd pediatregwyr arweiniol ar draws ardal BIP Betsi Cadwaladr a nyrsys arbenigol a gweithwyr iechyd proffesiynol yn yr hosbisau yn cefnogi rôl y meddyg ymgynghorol newydd.

Bydd y sawl a benodir hefyd yn ymwneud â sut bydd Cymru yn llywio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol trwy Rwydwaith Gofal Lliniarol Pediatrig Cymru (PPC).

Byddant yn meithrin cysylltiadau agos ag ysbytai plant yn Lerpwl, Manceinion a Birmingham, yn ogystal â gweithio law yn llaw ag uned Gofal Dwys Newyddenedigol Is-ranbarthol Ysbyty Glan Clwyd (SuRNIC).

Dywedodd prif weithredwr Betsi Cadwaladr, Jo Whitehead:  “Rwy’n cydnabod, fel y mae’r bwrdd, y gwir gyfraniad a wnaed gan Hosbisau Plant Hope House a Tŷ Gobaith i fywydau plant sy'n wael a’u teuluoedd ledled Gogledd Cymru a thu hwnt - dros nifer o flynyddoedd

“Rydym yn rhannu eu gwerthoedd ac mae'r apwyntiad hwn yn dangos ein huchelgais ar y cyd i wneud Gogledd Cymru yn ardal lle mae plant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd yn cael gofal o'r ansawdd uchaf un.

“Rwy'n falch iawn ein bod wedi ffurfioli'r bwriad hwn trwy'r apwyntiad hwn ac edrychaf ymlaen at ein cydweithrediad parhaus.”

Dywedodd prif weithredwr yr hosbisau, Andy Goldsmith: “Rydym yn falch iawn o gael cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Rhwydwaith Gofal Lliniarol Pediatreg Cymru i recriwtio i'r rôl gyffrous hon.

“Dyma'r tro cyntaf y bydd meddyg ymgynghorol gofal lliniarol pediatrig arbenigol yng Ngogledd Cymru, rhywbeth rydyn ni wedi dyheu amdano ers dros 10 mlynedd.

“Bydd deilydd y swydd hon yn darparu arweinyddiaeth feddygol arbenigol i'r system gyfan, ar draws y sectorau statudol a gwirfoddol, gan helpu i sicrhau bod plant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd yn derbyn gofal o'r radd flaenaf yn eu cymuned.

“Mae'r angen am yr arbenigedd arbenigol hwn yn fwy nag erioed, wrth i nifer y plant sy'n byw gyda chyflyrau cyfyngu bywyd yng Nghymru gynyddu ac wrth i gymhlethdod y gofal sydd ei angen arnynt gynyddu.

“Gyda chefnogaeth rhwydwaith o feddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ymroddedig a phrofiadol, mae gan ddeilydd y swydd hon gyfle i helpu Gogledd Cymru ar ei daith i ddod yn rhanbarth sy'n arwain y byd y maes gofal lliniarol a diwedd oes pediatrig.”

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl a lawrlwytho pecyn cais, defnyddiwch y ddolen ganlynol: 

Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Liniarol Bediatrig (jobs.nhs.uk)

 

I drafod y rôl, cysylltwch ag:

Andy Goldsmith Prif Weithredwr Hosbisau Plant Tŷ Gobaith

Ffôn: 01691 672 600

Ffôn symudol: 07969 950 783

andy@hopehouse.org.uk 

Dr Louise Phillips, Cyfarwyddwr Clinigol - Pediatreg Llym, Ardal y Canol

Ffôn:  01745 448700

Louise.Phillips@wales.nhs.uk

Dr Madalitso Kubwalo    Pediatregydd Ymgynghorol / Arweinydd Clinigol Gofal Lliniarol

Madalitso.Kubwalo@wales.nhs.uk