Mae newidiadau dros dro i’r ffordd mae gwasanaethau bydwreigiaeth cymunedol yn gweithredu wedi cael eu cyflwyno fel rhan o waith y Bwrdd Iechyd i ostwng y risg o haint o’r COVID-19.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd timau bydwragedd cymunedol yn symud o’u lleoliadau presennol yn ein cymunedau ac o rai ysbytai cymuned i leoliadau eraill dros dro.
Bydd unedau bydwreigiaeth geni cartrefol hefyd yn cau dros dro dros gyfnod COVID-19.
Bydd pob tîm Bydwreigiaeth Cymunedol yn cael eu lleoli mor agos â phosib i’w lleoliadau blaenorol, a bydd y timau yn cysylltu â merched yn eu gofal i roi gwybod iddynt am newidiadau i’w hapwyntiadau.
Nid oes angen i ferched gysylltu â’u bydwragedd cymunedol am fwy o wybodaeth, byddant yn derbyn galwad ffôn bersonol i roi gwybod iddynt am unrhyw newidiadau i leoliad eu hapwyntiadau a chadarnhau’r lleoliad.
Ar hyn o bryd, dim ond y tîm bydwragedd cymunedol sydd wedi’u lleoli yn Nhreffynnon sydd wedi symud lleoliad, a byddant wedi’u lleoli dros dro yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon.
Mae bydwragedd cymunedol Dolgellau wedi symud i Ganolfan Dolfeurig.
Mae bydwragedd cymunedol Bae Colwyn wedi symud dros dro i Barc Eirias.
Mae’r tîm yng Nghaergybi wedi symud o Ysbyty Penrhos Stanley i Ganolfan Hamdden Caergybi.
Mae bydwragedd cymunedol Llangefni wedi symud o Ysbyty Cefni i Ganolfan Hamdden Plas Arthur.
Mae tîm bydwragedd cymunedol Pwllheli wedi symud o Ysbyty Bryn Beryl i Ysgol Glan y Môr.
Ni fydd y Bwrdd Iechyd yn cynnig ei wasanaeth geni cartrefol yn ei Unedau dan Arweiniad Bydwragedd yn Nolgellau a Bryn Beryl, Pwllheli hyd nes yr hysbysir yn wahanol. Fodd bynnag, mae’r Unedau Dan Arweiniad Bydwragedd Ochr yn Ochr ym mhob un o’n hunedau bydwreigiaeth yn parhau i fod ar agor, gyda merched hefyd yn gallu mynd adref yn fuan ar ôl geni os ydyn nhw a’u babi yn iach.
Dywedodd Fiona Giraud, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Merched, “gwyddwn fod hwn yn gyfnod hynod bryderus i ferched.
“Mae’r newidiadau dros dro hyn yn rhan o’n gwaith i wneud popeth o fewn ein gallu i atal heintiau a chadw merched beichiog yn ddiogel.
"Mae’r rhan fwyaf o archwiliadau ar ôl geni nawr yn digwydd dros y ffôn, ond bydd mamau newydd yn dal i allu dod â’u babi i glinig cymuned er mwyn cynnal sgrinio newydd eni”.
Carwn atgoffa mamau newydd a mamau beichiog i ddilyn cyfarwyddydd Llywodraeth y DU i beidio â chyfarfod pobl na chaniatau ymwelwyr o du allan i’w cartrefi.