Neidio i'r prif gynnwy

Mynediad at wasanaethau gofal llygaid brys

Mae pobl yn cael eu hatgoffa y gallant barhau i gael mynediad at ofal a chymorth llygaid brys mewn rhai practisau optometrig yng Ngogledd Cymru.

Tra bod y mwyafrif o bractisau optometrig wedi cau i helpu i leihau'r lledaeniad o COVID-19, mae rhai wedi parhau ar agor i ddarparu gofal brys yn unig.

Dywedodd Tim Morgan, Cynghorydd Optometrig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae'n bwysig bod pobl yn gwybod ble gallant gael cymorth a chefnogaeth i ofalu am eu llygaid pan fydd ei angen arnynt.

"Os ydych yn datblygu problem llygaid gallwch ffonio Llinell Ymholiad Gofal Llygaid Cymru ar 01267 248793.”

I ddod o hyd i fwy o wybodaeth am wasanaethau optometrig brys, cysylltwch â Llinell Ymholiad Gofal Llygaid Cymru ar 01267 248793 neu ewch i Gwasanaethau Gofal Llygaid Cymru wedfan.