Daeth cydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Gogledd Cymru at ei gilydd i rannu syniadau a dysgu mewn cynhadledd gofal cymunedol yn Llandudno.
Gwnaeth mwy na 300 o staff o'r Bwrdd Iechyd, yr awdurdod lleol a'r trydydd sector fynychu cynhadledd gyntaf y Tîm Adnoddau Cymunedol yn Venue Cymru.
Roedd y gynhadledd yn dangos gwaith y Timau Adnoddau Cymunedol, lle bydd staff iechyd a chymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i gynnig gwasanaethau gofal y tu allan i ysbytai.
Gwnaeth y sawl a fynychodd, yn cynnwys fferyllwyr, gweithwyr cymdeithasol, staff therapïau, nyrsys ardal a gwirfoddolwyr, rannu syniadau ar sut i wella gwasanaethau cymunedol a gwnaethant glywed gan siaradwyr arbenigol yn cynnig astudiaethau achos yn ymwneud â ffyrdd newydd ac arloesol o gynnig gofal yn y gymuned.
Roedd y siaradwyr yn cynnwys yr Athro John Bolton, o'r Sefydliad Gofal Cyhoeddus (Prifysgol Oxford Brookes), a Dr Karen Sankey gyda Llyw-wyr Gofal Rowena Gregory a Kerry Grummert o'r Hwb Gofal Cymunedol, Wrecsam, sydd wedi ennill gwobrau cenedlaethol am ei waith allgymorth gyda phobl sy'n ddigartref.
Roedd siaradwyr sesiwn y prynhawn yn cynnwys Geraint Davies, Hwylusydd Iechyd a Lles, yn siarad am weithio'n agosach gyda'r sector gwirfoddol, Meilys Heulfryn Smith, Arweinydd Rhaglen Trawsnewid Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ailfodelu gofal cartref yng Ngwynedd, a Dr Meilyr Emrys ar ddefnyddio'r Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Dywedodd Dr Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Cychwynnol a Gwasanaethau Cymunedol: “Un o'n blaenoriaethau yw cynnig gwasanaethau gofal gwell yn nes at gartrefi pobl. Trwy annog gweithio'n well rhwng gofal iechyd, gofal cymdeithasol a grwpiau cymunedol a gwirfoddol, gallwn wneud mwy i atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty am driniaeth gan wella sut maent yn derbyn gofal yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain.
“Mae'r ffordd gydweithredol y mae Timau Adnoddau Cymunedol yn gweithio gyda'i gilydd yn gyfle gwych i ni wireddu'r uchelgais hon.
"Roedd awyrgylch hynod bositif trwy gydol y dydd, ac rydw i'n hyderus y bydd rhannu dysgu'n arwain at fwy o welliannau o ran y ffordd y mae ein trigolion yn manteisio ar wasanaethau gofal."