Tynnwyd y llun uchod cyn y pandemig COVID-19.
28.01.21
Mae meddygon yng Ngogledd Cymru yn annog pobl i beidio ag oedi cyn cael cymorth os ydynt yn boenus am eu hiechyd yn ystod y cyfnod clo COVID-19 diweddaraf.
Gwneir yr apêl ar ôl i rai meddygon teulu ddweud bod gostyngiad wedi bod yn nifer y bobl â phryderon iechyd sy’n cysylltu â nhw ar gyfer ymgynghoriadau yn ystod y cyfnod clo diweddaraf, gan arwain at bryderon y gellid colli’r cyfle ar gyfer triniaeth gynnar lwyddiannus.
Er gwaetha’r cyfyngiadau aros gartref a rhan meddygon teulu yn y rhaglen frechu genedlaethol COVID-19, mae apwyntiadau meddygon teulu yn dal i fod ar gael, a chynigir ymgynghoriadau dros y ffôn, fideo ac wyneb yn wyneb.
Dywedodd Meddyg Teulu o’r Wyddgrug a Chyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Ardal y Dwyrain ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Dr Jim McGuigan, ei bod yn hanfodol nad yw pobl yn oedi cyn cael cyngor a chymorth os oes ganddynt bryderon iechyd. Apeliodd hefyd ar i bobl fod yn amyneddgar pan fyddant yn ceisio trefnu apwyntiadau.
“Mae gennym neges glir i’r cyhoedd y dylent barhau i gysylltu â’u Meddyg Teulu os oes gannynt unrhyw bryderon am eu hiechyd,” dywedodd.
“Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl sydd â phroblemau pryderus parhaus. Nid ydych yn gwastraffu amser eich meddyg teulu drwy ofyn iddynt gael golwg ar eich symptomau ac mae cysylltu â ni yn brydlon yn ei gwneud yn llawer mwy tebygol y byddwch yn cael cynnig triniaeth gynnar lwyddiannus.
“Mae apwyntiadau dros y ffôn, fideo a wyneb yn wyneb yn dal i gael eu cynnig pan fo angen ac mae pob meddygfa wedi cyflwyno mesurau atal haint priodol i gadw cleifion a staff yn ddiogel.
“Os ydych yn cysylltu â’ch meddyg teulu i wneud apwyntiad am unrhyw bryderon iechyd, gofynnwn i chi fod yn amyneddgar. Mae staff derbynfeydd yn gweithio’n hynod o galed, fel maen nhw wedi gwneud drwy gydol y pandemig, a byddant yn ateb eich galwad a chynnig ymgynghoriad i chi cyn gynted ag y bydd un ar gael.”
Mae pob un o’r 98 meddygfa yn y rhanbarth yn gwneud eu rhan yn y rhaglen frechu COVID-19, fydd yn cyflymu’n sylweddol yn yr wythnosau nesaf wrth i gyflenwadau o’r brechlyn gynyddu.
Gwahoddir pobl i ganolfannau brechu a meddygfeydd i gael eu brechlyn yn nhrefn y grwpiau blaenoriaeth a ddynodwyd gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio.
Dywed Dr McGuigan y gall pobl leihau pwysau ar feddygfeydd drwy beidio â chysylltu â nhw i geisio gwneud apwyntiad am frechlyn COVID-19.
“Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa os nad ydyn nhw wedi cysylltu â chi gydag apwyntiad am y brechlyn. Ni fyddwn yn gallu cynnig y brechlyn i chi yn ddim cynt, ond gallech achosi oedi i bobl sy’n ceisio trefnu apwyntiadau cyffredinol.”
Mae ystod o wybodaeth ddefnyddiol am y rhaglen frechu COVID-19 a sut i gael gafael ar wasanaethau iechyd lleol priodol ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen frechu COVID-19 yng Ngogledd Cymru ewch i: Gwybodaeth Brechlyn COVID-19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
I gael mwy o wybodaeth am ddewis y gwasanaeth iechyd mwyaf priodol ewch i: Ble Dylwn i Fynd? - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
I gael gwybodaeth ac adnoddau i’ch helpu i gael gafael ar gefnogaeth ar gyfer eich iechyd meddwl a lles, ewch i Hwb Iechyd Meddwl BIPBC: Hwb Iechyd Meddwl - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)