Mae pobl sy'n amau bod ganddynt symptomau canser yn cael eu hannog i beidio oedi cyn gofyn am gyngor a thriniaeth oherwydd yr achosion COVID-19.
Mae Meddygon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymbil ar ôl i Feddygfeydd Meddyg Teulu adrodd bod gostyngiad sylweddol yn y nifer o bobl sy'n cyflwyno â symptomau sy'n gysylltiedig â'r afiechyd ers cyhoeddi'r pandemig.
Arweiniodd hyn at bryderon bod y cyfle i ddarparu triniaeth gynnar lwyddiannus yn cael ei golli.
Mae Meddygon Teulu yng Ngogledd Cymru'n annog pobl i beidio oedi cyn gofyn am gyngor a chymorth os ydynt yn cael profiad o unrhyw symptomau a amheuir i fod o ganser.
Darparwyd sicrwydd hefyd i bobl ar draws Gogledd Cymru y byddai eu meddygfeydd yn parhau ar agor.
Er bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi galw am seibiant dros dro ar rai o’r rhaglenni sgrinio ar sail poblogaeth, mae pobl sydd â symptomau y maent yn poeni amdanynt yn dal i gael eu hannog i gysylltu â’u Meddyg Teulu.
Dylai cleifion barhau i ffonio eu Meddygfa i ofyn am gymorth, gydag ymgynghoriadau dros y ffôn, fideo ac wyneb yn wyneb ar gael.
Dywedodd Dr Jenny Liddell, Meddyg Teulu Macmillan BIPBC yng Nghanolfan Iechyd Corwen:
"Rydym yn cydnabod bod nifer o bobl yn bryderus iawn, yn ddealladwy, ac felly ddim eisiau rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau gofal iechyd yn ystod y pandemig COVID-19.
"Fodd bynnag, mae'n bwysig bod pobl sy'n cael problemau gyda'u hiechyd, yn enwedig y rheiny sydd â symptomau pryderus parhaus a allai gael eu cysylltu â chanser, ddim yn oedi cyn cysylltu gyda'u Meddyg Teulu.
"Rydym yn ymbil ar bobl sydd wedi sylwi ar newidiadau anesboniadwy neu anghyffredin i'w corff i gysylltu â'u Meddyg Teulu. Fel arfer, mae'r newidiadau'n cael eu hachosi gan rywbeth llawer yn llai difrifol na chanser, ond gall fod yn arwydd o'r afiechyd.
"Rydym eisiau i bobl wybod nad ydynt yn gwastraffu amser eu Meddyg Teulu drwy archwilio eu symptomau.
"Mae dod o hyd i ganser yn gynnar yn golygu bod y driniaeth yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus."
Hoffai'r Bwrdd Iechyd hefyd sicrhau cleifion bod mesurau wedi'u cyflwyno i sicrhau y gellir darparu triniaeth ac asesiad yn ddiogel mewn meddygfeydd Meddyg Teulu ac ysbytai ar draws y rhanbarth.
Dywedodd Dr Elaine Hampton, Meddyg Teulu Macmillan BIPBC wedi ei lleoli ym Meddygfa Cambria yng Nghaergybi, Ynys Môn:
"Rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod pryderus iawn i'n cleifion ac rydym eisiau iddynt wybod ein bod wedi rhoi mesurau ar waith i sicrhau y gallant gael eu hasesu'n ddiogel yn ogystal â chael y driniaeth sydd ei angen arnynt.
"Mae hyn yn cynnwys darparu ymgynghoriadau dros fideo er cyfleustra cleifion yn ogystal â'u diogelwch, er mae ymgynghoriadau wyneb yn wyneb dal yn bosib, ble bo'u hangen.
"Hefyd, rydym wedi sefydlu Canolfannau Asesu Lleol ar wahân ar draws y rhanbarth i ddarparu asesiad i bobl sy'n arddangos symptomau COVID-19. Mae hyn yn helpu i leihau'r risg bod yr haint yn ein meddygfeydd Meddyg Teulu.
"Mae ardaloedd sy'n bwrpasol rydd o COVID-19 wedi eu sefydlu o fewn ein hysbytai fel bod unrhyw glaf yn gallu cael eu trin yn ddiogel."
Rhagor o wybodaeth:
Am fwy o wybodaeth ar ychydig o'r arwyddion a symptomau canser, ewch i wefan Cefnogaeth Canser Macmillan.